PRYCE, FREDERICK NORMAN (1888 - 1953), curadur amgueddfa

Enw: Frederick Norman Pryce
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1953
Priod: Ruby Pryce (née Sewell)
Rhiant: T.W. Pryce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: curadur amgueddfa
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 19 Awst 1888 yn y Trallwng, Trefaldwyn, yn fab T. W. Pryce a'i wraig. Wedi mynychu'r ysgol ramadeg aeth i G.P.C., Aberystwyth, lle y graddiodd mewn Lladin dosbarth I yn 1908, ac mewn Groeg dosbarth I yn 1909. Penodwyd ef i staff yr Amgueddfa Brydeinig yn 1911, a'i ddyrchafu'n Geidwad Cynorthwyol (1934) ac yn Geidwad Henebion Groeg a Rhufain (1936-39). Gwasanaethodd yn y dwyrain canol yn Rhyfel Byd I (a'i enwi mewn cadlythyrau ddwywaith), ac mewn intelligence yn Rhyfel Byd II. Ef oedd golygydd Journal of Hellenic Studies, 1924-38, ac yr oedd yn awdur nifer o bapurau ar hanes ac archaeoleg a chatalogau safonol o henebion clasurol.

Priododd Ruby Sewell yn 1925, a bu farw yn ei gartref, 31 Erw Wen, y Trallwng, 14 Hydref 1953.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.