Ganwyd 5 Mawrth 1886 yng Nghaerdydd, ei dad yn Roegwr a'i fam yn Wyddeles. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Weston-super-Mare. Rhwng 1908 ac 1928 bu'n cystadlu mewn pump o Chwaraeon Olympaidd ac enillodd fedalau aur mewn tri ohonynt - am bolo-dŵr yn 1908, 1912, 1920 ac fel aelod o dîm relay Prydain yn 1908. Oni bai i'r Rhyfel rwystro cynnal y Chwaraeon yn 1916, buasai Raddy - fel y gelwid ef - wedi cymryd rhan mewn mwy o Olympau ac wedi ennill rhagor o fedalau aur Olympaidd na'r un nofiwr arall. Enillodd bencampwriaeth 100 llath Cymru 15 gwaith rhwng 1901 ac 1922. Yn 1929, ac yntau'n 43 oed, enillodd bencampwriaeth 440 ac 880 llath Cymru. Yn 1967 cafodd ei anrhydeddu yn yr Hall of Fame yn Fort Lauderdale, Florida, un o'r ychydig Brydeinwyr i dderbyn un o brif anrhydeddau byd nofio. Bu farw 29 Medi 1968.
Am 80 mlynedd Radmilovic oedd Olympiwr mwyaf llwyddiannus Prydain nes i Steve Redgrave ennill pumed fedal aur yn 2000.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.