Ganwyd 13 Rhagfyr 1877, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, yn fab i William Richard Randall, cyfreithiwr yn y dref honno, a'i wraig Hannah (ganwyd Johnston). Addysgwyd ef yn Bradfield a daliai radd LL.B. (Llund.). Dilynodd alwedigaeth ei dad, derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1900, ac ymddeolodd o'i bractis yn 1962. Ef oedd ysgrifennydd cymdeithas cyfreithwyr Pen-y-bont a'r cylch o 1911 i 1921, a bu'n llywydd arni yn 1928 ac yn 1960. Nid yn ei alwedigaeth yn unig y bu'n nodedig; yr oedd yn ŵr o ddiddordebau eang iawn, yn enwedig ym maes hanes lleol Bro Morgannwg, lle y treuliodd ei oes yn gyfan. Fel aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru bu'n llywydd yn 1928, ac yn drysorydd mygedol o 1936 i 1951; cynrychiolodd hi ar Fwrdd y Gwybodau Celtaidd am 22 fl. Bu'n aelod o Fwrdd Henebion Cymru hyd 1959, yn gyd-olygydd y South Wales Record Society o 1929; F.S.A. ac aelod o'i chyngor yn 1949, a llywydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, 1946-47. Yr oedd yn aelod o'r Athenaeum. Enghraifft arall o'i ymwybod â chyfrifoldeb i gymdeithas oedd iddo fod yn swyddog yn y Gatrawd Gymreig yn y Lluoedd Gwirfoddol a Thiriogaethol o 1895 i 1918. Ymhlith nifer o ysgrifau ar faterion cyfreithiol o'i law y mae'n werth nodi ' Law and geography ' (Evolution of law, III, 1918) a ' Beginnings of English constitutional theory (Wigmore celebration legal essays, 1919). Daeth y llyfr cyntaf a gyhoeddodd - History in the open air - allan yn 1936, a'i ddilyn yn 1944 gan The creative centuries. Ato ef y troes Cymdeithas Hynafiaethau Cymru am grynodeb awdurdodol o hanes Cymru Rufeinig yn ei chyfrol i ddathlu canmlwyddiant Archæologia Cambrensis yn 1946, a chyflenwodd ei bennod werthfawr ar y cyfnod Rhufeinig y gofyn i'r ymylon. Parhaodd i roi ar gof a chadw gynnyrch ei ddiddordeb dwfn yn hanes ei sir enedigol gyda Bridgend: the story of a market town (1955), a The Vale of Glamorgan, studies in landscape and history (1961).
Bu ganddo berthynas glòs ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru am yn agos i 40 mlynedd, daeth yn aelod o'i phwyllgor celfyddyd ac archaeoleg yn 1925, yn aelod o'r llys yn 1937, ac o'r cyngor yn 1938. Ef oedd trysorydd yr Amgueddfa o 1952 i 1962, ac yn y cyfnod hwnnw y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf, efallai, drwy sefydlu ' Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru ', corff y bu ef yn gadeirydd iddo o 1954 i 1964.
Cydnabu Prifysgol Cymru yn 1963 ei wasanaeth i'w sir a'i wlad drwy ei anrhydeddu â gradd LL.D.
Priododd yn 1916, ag Olga Ruth Brewis. Ni bu iddynt blant. Bu farw 4 Tachwedd 1964 yn ei gartref, ' Erw Graig ', Merthyr Mawr, Pen-y-bont, a chynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn eglwys S. Mair, Nolton, Pen-y-bont, cyn ei amlosgi, ar Dachwedd 9.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.