REES, CALEB (1883 - 1970), arolygydd ysgolion ac awdur

Enw: Caleb Rees
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1970
Priod: Laura Gertrude Rees (née Powell)
Rhiant: Mary Rees
Rhiant: Jacob Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arolygydd ysgolion ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn 1883 yn fab i Jacob a Mary Rees, Esgair-ordd, Eglwys Wen, Penfro. Aeth o ysgol y pentref i ysgol uwchradd Port Talbot lle yr enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1899. Tra oedd yno enillodd wobr goffa Gladstone, a graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1902. Aeth i Brifysgol Manceinion am gwrs pellach o addysg gan ennill gwobr Withers cyn dychwelyd i Gaerdydd fel darlithydd yn yr adran addysg yn 1908 a chael gradd M.A. y flwyddyn ddilynol. Yn 1912 penodwyd ef yn arolygydd ysgolion Brycheiniog, Mynwy a bwrdeistref Casnewydd, a'i ddychafu'n ddirprwy brif arolygydd Cymru yn ddiweddarach. Ar ddechrau Rhyfel Byd II bu'n swyddog yn y Weinyddiaeth Hysbysrwydd yng Nghaerdydd ond torrodd ei iechyd ac wedi cael adferiad dychwelodd i'w waith fel arolygydd colegau hyfforddi ac adrannau addysg y Brifysgol. Priododd yng nghapel City Road (EF), Llundain, 28 Awst 1922, â Laura Gertrude Powell, swyddog meddygol y Bwrdd Iechyd yng Nghaerdydd, a gwnaethant eu cartref yn 28 Clytha Park Road, Casnewydd-ar-Wysg. Er iddo ymddeol yn 1943 i Drebentir, Lacharn, cynorthwyodd, dair blynedd yn ddiweddarach, gyda'r gwaith o holi dynion ifainc, llawer ohonynt newydd eu rhyddhau o'r lluoedd arfog, a oedd am fynd i golegau hyfforddi. Ymaelododd ef a'i briod yn ei hen eglwys ym Mhen-y-groes, lle y gwnaed ef yn ddiacon. Bu ei briod farw ddydd Calan ac yntau ar 9 Ionawr 1970.

Ysgrifennodd ef a'i frawd Stephen Morris Rees hanes yr eglwys, Pen-y-groes, gyrfa dwy ganrif (1959). Ceir cyfres o erthyglau ar addysg ganddo yn Y Traethodydd 1907-8, ' Dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion ' yn Y Beirniad, 1, hanes gor-ewythr iddo a aeth i'r Amerig yn Y Llenor, 1933, ynghyd â phamffledi ar addysg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.