Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 19 Mawrth 1875, yn fab James a Mary Rees, Waun-wen, Abertawe, Morgannwg. Cafodd radd (B.A.) Prifysgol Llundain yn 1898, ac er nad oedd ganddo brofiad o fod yn ysgolfeistr penodwyd ef o blith 112 o ymgeiswyr yn gyfarwyddwr addysg yn Abertawe yn 1908, swydd a gadwodd hyd nes iddo ymddeol yn 1943. Ym myd addysg Prydain daeth yn adnabyddus fel aelod o bwyllgorau ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Gyda'i wybodaeth eang daeth yn siaradwr huawdl a phoblogaidd ar faterion addysg, a daeth yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus ym myd addysg yng Nghymru fel ysgrifennydd mygedol Ffederasiwn Pwyllgorau Addysg Cymru a Mynwy. Yr oedd ganddo gysylltiad â llawer o gymdeithasau, gan fod yn aelod o'r Cyngor Canolog ar Ddarlledu i Ysgolion, cyngor Prifysgol Cymru, Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru, ac Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru. Bu'n Y.H. ac yn drysorydd Coleg y Brifysgol, Abertawe. Ef oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Rotari Abertawe, a bu'n llywydd Rotari Prydain Fawr ac Iwerddon, 1942-44. Yn 1943 gwnaed ef yn C.B.E. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir anerchiad ar The appointment of head teachers (1911) ac adroddiadau ar The teaching of Welsh in elementary schools (1914) a The education problem in Swansea (1918).
Priododd, 1902, Katie Davies, Tre-gŵyr, a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw, 24 Rhagfyr 1957, yng nghartref ei ferch, Brynfield, Reynoldston.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.