Ganwyd yn Sgiwen, Morgannwg, yn 1871, yn un o chwe phlentyn William Rees, glöwr, a'i wraig Mary. Aeth i ysgol genedlaethol y pentre ac o'r ysgol i weithio gyda'i dad yng nglofa'r Fforest Fforchdwm. Yna buont yn gweithio yn lefel Melin-cwrt wedi symud i Resolfen. Pan gaeodd y lefel symudasant i'r Maerdy yn y Rhondda Fach. Yr oedd y tad a dau o'r bechgyn, Thomas a John, yn gweithio ym mhwll Rhif 2 ar 23 Rhagfyr 1885 pryd y cafwyd tanchwa drychinebus yn y pwll, ond achubwyd y tri.
Dechreuodd Thomas ar ei yrfa gyhoeddus yn ieuanc fel adroddwr, areithiwr, bardd a thraethodwr. Dechreuodd bregethu pan oedd yn 18 oed a hynny ar gais eglwys Siloa, Maerdy. Aeth am dri mis i ysgol uwchradd Pentre Rhondda cyn mynd i Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman. Enillodd ysgoloriaeth leol i fechgyn o'r Maerdy i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Derbyniwyd ef drwy arholiad i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu.
Ordeiniwyd ef ym Mehefin 1896 ym Methel Newydd, Mynyddislwyn, Mynwy. Yno drwy olrhain hanes yr eglwys y dechreuodd gymryd at ymchwil hanesyddol a fu'n un o brif ddiddordebau ei fywyd. Yn 1899 symudodd i fugeilio eglwys (S) Bwcle, Sir y Fflint ac yno cafodd gyfle i fanteisio ar adnoddau Llyfrgell Sant Deiniol ym Mhenarlâg. Cymerodd ran amlwg mewn llywodraeth leol fel aelod o gyngor sir a chadeirydd Pwyllgor Addysg sir y Fflint. Yr oedd yn aelod o ddirprwyaeth a fu ger bron Comisiwn Datgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Yn 1906 newidiodd ei faes, a chymryd gofal eglwys Markham Square, Chelsea. Yno bu'n cydweithio â'r Arglwydd Monkswell i hyrwyddo buddiannau plant. Dychwelodd i Gymru yn 1912 i gymryd gofal o eglwys (S) Gnoll Road, Castell-nedd ac aros yno nes ymddeol yn 1946. Ar ei ymddeoliad gwnaethpwyd ef yn weinidog anrhydeddus i'r eglwys.
Enillodd lawer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol Ef oedd ysgrifennydd pwyllgor llên Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1918. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd. Darlithiodd yn helaeth ar faterion hanesyddol. Ar gyfrif hynny a'i ymchwil a'i gyhoeddiadau etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Hanesyddol (F.R. Hist. S.). Cyhoeddodd nifer o lyfrau a llyfrynnau - Y Lili fach wen a thelynegion eraill (1903); Breezes from the Welsh hills and other poems (1906); Notable Welshmen (1908); Ebenezer Jones, the neglected poet … (1909); Ystoriau difyr … (1908 ac 1909); Mynachdai Cymru … (1910); Welsh painters, engravers, sculptors (1527-1911) (1912); Difyrwch gwŷr Morgannwg … (1916); Hiwmor y Cymro … (1922); A history of the Quakers in Wales and their emigration to North America (1925); a Seth Joshua and Frank Joshua … (1926). Ef oedd golygydd The Official Guide to Neath o 1922 i 1941. Cyhoeddodd hefyd bamffledi Cymraeg a Saesneg ar ganlyniadau Deddf Unffurfiaeth, 1662, a byr hanes eglwysi Maes-yr-haf, Castell-nedd, a Bethel Newydd, Mynyddislwyn. Priododd Margaret Williams a fu farw 4 blynedd o'i flaen. Bu iddynt 4 mab ac un ferch. Bu'r hynaf, Alyn, farw o flaen ei dad. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf y Cyngor Ymgynghorol ar Addysg Dechnegol yn ne Cymru. Bu Kenneth yn rheolwr banc yn Croydon, Penry yn brifathro ysgol ramadeg Basaleg, a Bryn yn weinidog ar eglwys gynulleidfaol Muswell Hill.
Bu farw 2 Mai 1953 a chladdwyd ef ym mynwent newydd Llanilltud Fach.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.