ROBERTS, DAVID ('Telynor Mawddwy '; 1875 - 1956), telynor, datgeinydd ac awdur llawlyfrau gosod

Enw: David Roberts
Ffugenw: Telynor Mawddwy
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1956
Priod: Jennie Roberts
Rhiant: Catrin Roberts (née Pughe)
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor, datgeinydd ac awdur llawlyfrau gosod
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Aled Lloyd Davies

Ganwyd 1 Awst 1875 yn Llannerch, Llanymawddwy, Meirionnydd, yr hynaf o saith o blant Robert Roberts a Chatrin (ganwyd Pughe). Hanai o deuluoedd diwylliedig a cherddorol iawn ar y naill ochr a'r llall - ei dad yn hanu o deulu amryddawn Bwlch Coediog, Mallwyd. Pan oedd yn chwech oed, cafodd y frech goch, a gadawyd ef yn ddall am weddill ei oes. Meithrinwyd ei dalent cerddorol ar yr aelwyd ac yn y capel, a thaniwyd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn ifanc iawn. Dechreuodd ganu 'n gyhoeddus fel aelod o barti plygain Bwlch Coediog. Gan ei ddau ewythr, Eos Mawddwy ac Ioan Mawddwy, y dysgodd sut i osod pennill ar gainc, a'i drwytho yn yr hen osodiadau llafar a genid ar aelwydydd Mawddwy ac a oedd yn rhan o draddodiad 'canu penillion' y fro. Dysgodd y grefft o ganu cylch, ac enillodd lawryfon yn Eisteddfodau Cenedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898; Lerpwl, 1900; a Llanelli, 1903. Erbyn hynny yr oedd wedi dysgu canu'r delyn yn ogystal â'r ffidil, a chafodd wahoddiad i dreulio cyfnod ym Mhlas Llanofer o dan hyfforddiant Pencerddes y De (Mrs. S.B. Griffith). Daeth nifer o lwyddiannau eisteddfodol pellach i'w ran ym maes canu'r delyn. Wedi gadael Llanofer ac ymbriodi yn 1909, symudodd i Abermaw, ac yno y treuliodd weddill ei oes yn diddanu ymwelwyr gyda'i delyn; ac yn gwasanaethu ei fro fel pregethwr lleyg. Bu'n hyfforddi myrdd o ddatgeiniaid ym Meirion. Cyhoeddodd Y tant aur (1911), llyfryn sol-ffa o 49 o osodiadau llafar ei fro. Sylweddolodd mai amrwd a diddychymyg oedd llawer o'r gosodiadau, a chyda chymorth y Parch. P.H. Lewis, aeth ati i'w hailwampio ar gyfer yr ail argraffiad (1915). Yn y rhain gwelir llawer iawn mwy o gywirdeb a dychymyg cerddorol. Gyda P.H. Lewis eto, cyhoeddodd ganllaw pwysig arall i delynorion a datgeiniaid, sef Cainc y delyn (1916), llawlyfr o geinciau gosod wedi eu trefnu mewn hen nodiant ar gyfer y delyn, yn ogystal â geiriau wedi eu gosod arnynt. Yr oedd Telynor Mawddwy yn un o'r arloeswyr allweddol hynny a fu'n gyfrifol am adfywiad yr hen grefft o ganu gyda'r tannau ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif gan drawsnewid y gelfyddyd o'i hen ffurf lafar draddodiadol i gelfyddyd fwy bwriadus ac ysgrifenedig ein dyddiau ni. Heb Y tant aur fe ddichon na fyddai adfywiad yr hanner can mlynedd diwethaf wedi digwydd.

Bu iddo ef a'i wraig Jennie ddau fab a merch. Bu farw 21 Mawrth 1956 yn ei gartref, Llys y Delyn, a chladdwyd ef ym mynwent Llanaber. Gosodwyd mainc goffa ar Rodfa'r Môr yn Abermaw gan Gymdeithas Cerdd Dant Cymru i goffáu ei gyfraniad unigryw, ac arni gwpled o eiddo W.D. Williams :

Mainc adgof mwynhau cydgan
Tonnau môr a'r tannau mân.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.