Ganwyd 6 Hydref 1888 yn 28 Church Row, Trecynon, Aberdâr, Morgannwg, mab i Hannah (ganwyd Jones) a Gethin Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Llwydcoed ac wedyn yn ysgol sirol Aberdâr. Treuliodd y blynyddoedd 1907-09 yn y Coleg Normal, Bangor, a chael Tystysgrif Addysgu yn 1909. Bu'n ysgolfeistr wedi hynny yn Ysgol y Comin, Trecynon, Ysgol Cwmdâr ac Ysgol Abernant, y tair yng nghyffiniau Aberdâr. Yn y cyfnod 1923-40, bu'n athro yn Ysgol Ganol y Gadlys yn Aberdâr, yn dysgu Cymraeg, daearyddiaeth a cherddoriaeth. Yn 1940 fe'i penodwyd yn brifathro'r ysgol, ac arhosodd yn y swydd hon hyd at ei ymddeoliad yn 1949.
Yn 1923-24 sylfaenodd Undeb Athrawon Cymreig, a bu'n ysgrifennydd yr Undeb hwnnw hyd ddiwedd Rhyfel Byd II pryd y ffurfiwyd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru. Bu'n aelod hefyd o fwrdd golygyddol Yr Athro o'r dechrau yn 1928 hyd ei farw. Cynhyrchodd lyfrau tra defnyddiol i hyrwyddo dysgu Cymraeg, sef Llwybr y Gymraeg 1, 2 a 3 a Priffordd y Gymraeg 1, 2 a 3 (y ddau cyn 1930) a Cynllun Newydd yn y Gymraeg (1930). Cyfrannodd nifer o erthyglau a nodiadau ar ddysgu Cymraeg i Yr Athro. Byddai'n darlithio mewn llawer man ar ddysgu Cymraeg i blant, yn enwedig fel ail iaith. Yn 1932 daeth Some Notes of Lessons for Teachers of 'Priffordd y Gymraeg'. Yn 1929-40 yr oedd yn brif ddarlithydd Undeb y Cymdeithasau Cymreig ar addysg ddwyieithog mewn ysgolion. Cydnabuwyd ei gyfraniad pwysig gan Brifysgol Cymru trwy ddyfarnu iddo radd M.A. er anrhydedd yn 1951.
Bu D.O. Roberts yn weithgar ym mywyd colegol ac eisteddfodol Cymru, yn yr Ŵyl Lyfrau Genedlaethol, ac ym mywyd cerddorol cwm Cynon. Byddai'n darlithio'n aml ar y radio, gan sylwi'n arbennig ar ddiwylliannau ac ieithoedd lleiafrifiol yn Ewrop. Yr oedd ganddo ddelfrydau rhyng-genedlaethol a heddychol yn ogystal ag ymlyniad cadarn wrth achos hunanlywodraeth i Gymru.
Priododd ag Ann Edwards 23 Ebrill 1917 a bu iddynt fab a merch. Bu farw 29 Awst 1958.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.