ROCYN-JONES, Syr DAVID THOMAS (1862 - 1953), swyddog iechyd meddygol a gŵr cyhoeddus

Enw: David Thomas Rocyn-jones
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1953
Priod: Alla Rocyn-Jones (née Jones)
Plentyn: Nathan Rocyn-Jones
Plentyn: Gwyn Rocyn-Jones
Rhiant: David Rocyn Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog iechyd meddygol a gŵr cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd yn Rhymni, Mynwy, 16 Tachwedd 1862, yn fab i David Rocyn Jones y bu ei dad (Thomas Rocyn Jones) yn aelod o deulu enwog o feddygon esgyrn o Faenordeifi, Penfro. Addysgwyd ef yn Ysgol Lewis, Pengam, a Cholegau Prifysgol Caerdydd a Llundain, gan raddio yn M.B. ym Mhrifysgol Caeredin yn 1897. Cychwynnodd ar ei fywyd proffesiynol mewn practis yn Abertyleri. Ond, ar ôl ennill D.P.H. yn Rhydychen yn 1904, penodwyd ef yn swyddog iechyd meddygol sir Fynwy yn 1907, ac yno sefydlodd wasanaeth nodedig o feddygiaeth ataliol - yn enwedig yn erbyn y darfodedigaeth. Yr oedd yn un o bum sylfaenydd y Welsh National Memorial Association a ffurfiwyd i wrthsefyll yr afiechyd dinistriol hwn.

Gweithiodd lawer dros Goleg y Brifysgol, Caerdydd, y bu'n is-lywydd iddo. Cymerodd ran amlwg yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru (yn ddiweddarach Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) yn sefydliad annibynnol. Ar y cychwyn yr oedd yn gadarn yn erbyn gwahanu'r Ysgol Feddygol a Choleg y Brifysgol, ond pan ddigwyddodd hynny rhoddodd gefnogaeth lwyr i'r fenter newydd. Gwasanaethodd gydag anrhydedd mewn amrywiol ffyrdd ar lawer o gyrff cyhoeddus a rhai proffesiynol yng Nghymru, megis Bwrdd Rhanbarthol Ysbytai Cymru, y Gymdeithas Feddygol Brydeinig a Brigâd Ambiwlans S. Ioan - yr oedd yn Knight of Grace Urdd S. Ioan. Hefyd, cadwodd gysylltiad agos ag Undeb Rygbi Cymru am 45 mlynedd, ac ef oedd y llywydd pan fu farw.

Penodwyd Rocyn-Jones, a fu'n ynad y sir am lawer o flynyddoedd, yn Ddirprwy-Lifftenant sir Fynwy yn 1947. Urddwyd ef yn farchog y flwyddyn ddilynol; gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1920. Yr oedd yn Annibynnwr pybyr, a cheisiodd trwy gydol ei fywyd gryfhau'r cysylltiad rhwng ei sir enedigol a siroedd eraill de Cymru. Ystyrid ef bob amser yn dipyn o gymeriad.

Yn 1901 priododd Alla (bu farw 1950), merch S.N. Jones, Abertyleri. Aeth dau o'u pedwar mab yn feddygon; dilynodd Gwyn ei dad fel swyddog iechyd meddygol y sir, a daeth Nathan, yn addas iawn o ystyried cefndir y teulu fel meddygon esgyrn, yn llawfeddyg orthopaedig yng Nghaerdydd. Lladdwyd mab arall yn yr Eidal tua diwedd Rhyfel Byd II. Bu farw 30 Ebrill 1953.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.