ROWLEY, HAROLD HENRY (1890 - 1969), Athro, ysgolhaig ac awdur

Enw: Harold Henry Rowley
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1969
Priod: Gladys B. Rowley (née Shaw)
Plentyn: Winifred Mary Johnson (née Rowley)
Rhiant: Emma Rowley
Rhiant: Richard Rowley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro, ysgolhaig ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gwilym Henry Jones

Ganwyd 24 Mawrth 1890 yng Nghaerlyr, yn fab i Richard ac Emma Rowley. Aeth i Goleg y Bedyddwyr, Bryste, a Choleg Mansfield, Rhydychen, gan raddio'n M.A. ym Mryste, B.Litt. yn Rhydychen a D.D. o Brifysgol Llundain. Enillodd lu o wobrau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys Gwobr Houghton mewn Syrieg. Bu'n weinidog ar gynulleidfa unedig y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn Wells, Gwlad-yr-Haf (1917-22) ac wedyn yn genhadwr yn Tsieina (1922-30), lle'r oedd yn Athro ym Mhrifysgol Gristionogol Shangtung. Daeth i Gymru yn 1930, yn ddarlithydd mewn ieithoedd Semitig yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna'n Athro Hebraeg a Ieithoedd Semitig yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor (1935-45). Tra oedd ym Mangor bu'n is-brifathro'r Coleg (1940-45) ac yn Ddeon yr Ysgol Diwinyddiaeth (1936-45), ac fe'i cofir fel gweithiwr caled a disgyblwr llym. Symudodd i Gadair ieithoedd Semitig Prifysgol Manceinion yn 1945; bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1956, a bu'n Ddeon Diwinyddiaeth y Brifysgol (1953-56). Bu hefyd yn llywydd Undeb Bedyddwyr Prydain (1957-58).

Cyhoeddodd nifer helaeth o gyfrolau, yn eu plith Darius the Mede and the four world empires in the Book of Daniel (1935), The relevance of the Bible (1942), The relevance of Apocalyptic (1944), The Growth of the Old Testament (1950), The Biblical doctrine of election (1950), From Joseph to Joshua (1950). Cyhoeddodd hefyd dri chasgliad o erthyglau, The servant of the Lord (1952), Men of God (1963) a From Moses to Qumran (1963), a bu'n olygydd i nifer o gyfrolau ac i'r Journal of Semitic studies (1956-60). Nodweddir ei waith gan droednodiadau helaeth, sy'n ffynonellau dihysbydd i ymchwilwyr.

Yn ei ddydd yr oedd yn un o'r ysgolheigion mwyaf adnabyddus trwy'r byd ym maes yr Hen Destament, fel y gwelir oddi wrth yr anrhydeddau a dderbyniodd: doethuriaethau er anrhydedd gan Brifysgolion Durham, Cymru, Rhydychen, Manceinion, Caeredin, Uppsala, Zürich, Marburg, McMaster a Strasbourg; ei wneud yn aelod anrhydeddus o gymdeithasau ysgolheigaidd mewn gwahanol wledydd; ei ethol yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig; medal Burkitt yr Academi Brydeinig am astudiaethau Beiblaidd. Ef yn anad neb a lwyddodd i gysylltu ysgolheigion yr Hen Destament â'i gilydd ar ôl Rhyfel Byd II; bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Efrydu'r Hen Destament (1946-60), ac yn llywydd iddi (1950).

Priododd Gladys B. Shaw yn 1918 a bu iddynt fab a 3 merch. Aeth i fyw i Stroud ar ôl ymddeol ac yno y bu farw 4 Hydref 1969.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/