SAYCE, GEORGE ETHELBERT (1875 - 1953), newyddiadurwr a pherchen papurau

Enw: George Ethelbert Sayce
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1953
Priod: May Sayce (née Walsh)
Priod: Eleanor Sayce (née Richards)
Rhiant: Athel Sayce (née Miles)
Rhiant: George Sayce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr a pherchen papurau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Llangua, Mynwy, ddydd Nadolig 1875, yn fab i George Sayce a'i wraig Athel (ganwyd Miles). Cafodd hyfforddiant mewn newyddiaduraeth a bu'n dilyn cwrs o efrydiau llenyddol a masnachol yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac ennill cryn brofiad yn y maes rhwng 1898 ac 1914 yn arbennig yn swydd Efrog, lle y bu'n olygydd yr York Observer, y Thirsk and District News, a'r Yorkshire Chronicle hefyd am gyfnod. Yn 1914 prynodd y Brecon and Radnor Express a'r Radnor Express. Yn 1933 cymerodd y Brecon County Times a'i gorffori yn y Brecon and Radnor Express & County Times. Bu'n gyfarwyddwr ar amryw gwmnïau masnachol ac yr oedd yn un o sylfaenwyr siambr fasnach Llanfair-ym-Muallt. Cymerodd ran flaenllaw mewn llywodraeth leol gan fod yn gadeirydd cyngor dosbarth trefol Llanfair-ym-Muallt a chadeirydd cymdeithas datblygu dyffryn Gwy. Gwnaeth lawer i hybu twristiaeth a chefnogi chwaraeon, yn arbennig golff. Cymerai ddiddordeb mewn ysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans ac mewn addysg elfennol ac uwchradd, gan fod yn aelod o lysoedd colegau'r Brifysgol yn Aberystwyth ac Abertawe. Ef oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Amaethyddol gogledd Brycheiniog a bu'n gadeirydd cymdeithas Ryddfrydol yr etholaeth. Bu'n siryf Brycheiniog ddwywaith-yn 1940-41 ac 1947-48, a gwasanaethodd fel ustus o 1932 hyd 1950. I gofnodi diwedd Rhyfel Byd II cyflwynodd ffenestr liw i eglwys Llanfair-ym-Muallt. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi ei fam (Poems by Athel Sayce) yn 1915; Guide to Llandrindod Wells, Day with the blind, a Rambles in Yorkshire.

Priododd (1), yn 1901, ag Eleanor Richards (a fu farw 1910) a bu iddynt fab a thair merch. Priododd (2), yn 1914, â May Walsh a ganwyd iddynt fab a merch. Treuliodd ddiwedd ei oes ym Mhontrilas. Bu farw 7 Hydref 1953 a chladdwyd ef yn Llangynidr (Kenderchurch), Swydd Henffordd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.