SEAGER, GEORGE LEIGHTON (1896 - 1963; BARWN LEIGHTON o Laneirwg (St. Mellons), 1962), masnachwr a pherchennog llongau

Enw: George Leighton Seager
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1963
Priod: Marjorie Seager (née Gimson)
Rhiant: Margaret Annie Seager (née Elliot)
Rhiant: William Henry Seager
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: masnachwr a pherchennog llongau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 11 Ionawr 1896 yn fab ieuangaf Syr William Henry Seager (sylfaenydd cwmni llongau W.H. Seager) a Margaret Annie (ganwyd Elliot) ei wraig, Lynwood, Caerdydd, a brawd John Elliot Seager. Ar ôl gadael Coleg y Frenhines, Taunton, yn 16 oed aeth ar daith i Dde America ac ar y Cyfandir. Ar ddechrau Rhyfel Byd I cafodd gomisiwn gyda'r Artists' Rifles (catrawd Llundain) ac wedi hynny gwnaeth wasanaeth gwirfoddol gyda'r Weinyddiaeth Fwyd. Dychwelodd i Gymru i gynorthwyo'i dad a'i frawd hynaf ym musnesau niferus y teulu. Rhoddodd sylw arbennig i'r adran longau ac ni fu fawr o dro cyn cael ei ystyried yn arbenigwr yn y maes. Yn 1929 bu'n gynghorwr masnachol i'r Llywodraeth pan aeth gyda dirprwyaeth i Ganada. Daeth yn gyfarwyddwr llawer iawn o gwmnïau ac yn gadeirydd Cymdeithas Perchnogion Llongau Môr Hafren, Siambr Masnach Fôr y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag amryw bwyllgorau yn ymwneud â diweithdra yng Nghaerdydd. Bu hefyd yn llywydd Siambr Fasnach Caerdydd. Bu'n hael a gweithgar gyda chymdeithasau elusennol, yn enwedig rhai er bydd addysg ac iechyd morwyr. Gwasanaethodd fel Y.H. dros sir Fynwy ac ef oedd Is-lifftenant y sir o 1957 hyd ei farw. Urddwyd ef yn farchog yn 1938, gwnaed ef yn farwnig yn 1957 ac yn farwn yn 1962. Priododd yn 1921 â Marjorie, merch William Henry Gimson, Brycheiniog, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu'n byw yn Marley Lodge, Llaneirwg a bu farw 17 Hydref 1963.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.