Ganwyd 28 Chwefror 1873 ym Manceinion, yn fab i Edwin Simon, gweinidog (A) o Stackpole, Penfro, a Fanny (ganwyd Allsebrook) ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Fettes, Caeredin a Choleg Wadham, Rhydychen. Ar ôl graddio yn y clasuron yn 1896 etholwyd ef yn Gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen. Yn 1898 enillodd Ysgoloriaeth Gyfraith Barstow a galwyd ef i'r Bar gan y Deml Fewnol y flwyddyn ddilynol. A chanddo feddwl trefnus, cof eithriadol, a gallu diguro i'w fynegi ei hun, penodwyd ef yn farnwr ar y Gylchdaith Orllewinol mor gynnar ag 1908; ond ei uchelgais oedd bod yn wleidydd. Yn 1906 etholwyd ef yn A.S. (Rh.) Walthamstow, Essex, ac ni fu fawr o dro cyn dod yn aelod o'r cabinet a gwnaed ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cartref (1915-16) ond ymddiswyddodd am y gwrthwynebai orfodaeth filwrol. Dychwelodd fel A.S. Dyffryn Spen, 1922-40. Cyfrannodd araith o'i eiddo yn Nhŷ'r Cyffredin yn sylweddol at fethiant streic y glowyr yn 1926. Nid oedd llewyrch ar ei gyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor o 1931 hyd 1935, ond bu'n fwy llwyddiannus yn ei ail dymor fel Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cartref, 1935-37, cyn bod yn Ganghellor y Trysorlys, 1937-40. Gwasanaethodd ar nifer o gomisiynau'r llywodraeth, ac ef oedd cadeirydd Comisiwn Statudol yr India, 1927-30, a gynhyrchodd adroddiad nodedig ar weithrediad deddf 1919 ynglŷn â llywodraeth yr India. Yn 1940 dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi a daeth yn Arglwydd Ganghellor, swydd a lanwodd gyda chlod mawr. Daeth llawer o'i ddyfarniadau dilynol yn fodelau o ddehongliadau eglur a thrylwyr o'r gyfraith. Priododd (1), 1899, Ethel Mary Venables (bu farw 1902) a bu iddynt fab a dwy ferch; (2), 1917, Kathleen Manning (ganwyd Harvey); bu ef farw 11 Ionawr 1954. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir ei hunangofiant, Retrospect (1952), ac Income Tax (5 cyf., 1950).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.