SOUTHALL, REGINALD BRADBURY (1900 - 1965), cyfarwyddwr purfa olew

Enw: Reginald Bradbury Southall
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1965
Priod: Phyllis May Southall (née Hemming)
Rhiant: Harriette Southall
Rhiant: George Henry Southall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfarwyddwr purfa olew
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Bollington, swydd Caer, 5 Mehefin 1900, yn fab i'r Parchg. George Henry Southall a Harriette ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol West Monmouth. Ar ôl treulio ychydig flynyddoedd yn y diwydiant dur, aeth i weithio yn labordy'r Purfeydd Olew Cenedlaethol, (Purfa Olew Brydeinig (Llandarcy), Cyf., yn ddiweddarach), pan ddechreuwyd defnyddio'r burfa yn Llandarcy yn 1921 ac yno yr arhosodd ar wahân i ysbeidiau byr dramor. Tyfodd y burfa i fod yr ail fwyaf a feddai'r cwmni yn y Deyrnas Unedig, a daeth Reginald Bradbury Southall yn rheolwr y gwaith yn 1942, ac yn gyfarwyddwr yn 1950. Yn 1960 daeth hefyd yn gyfarwyddwr British Hydrocarbon Chemicals Ltd. a ddefnyddiai olew Llandarcy yn y gwaith ym Mae Baglan. Yr oedd yn gynghorwr doeth a weithiodd yn ddygn dros gymdeithasau diwydiannol Cymru fel aelod o Fwrdd Rhanbarthol Cymru dros Ddiwydiant, cyfarwyddwr Corfforaeth Datblygu Cymru, 1958-64, cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Dŵr Cymru, ac aelod o Fwrdd Dociau Trafnidiaeth Brydeinig, 1963-65. Cynrychiolodd y Deyrnas Unedig yn Swyddfa Lafur Ryngwladol y Pwyllgor Diwydiant Olew o'r cychwyn yn 1947 hyd 1960.

Daeth yn ynad heddwch yn 1954 a bu'n llywydd Siambr Fasnach Abertawe, 1958-59. Cymerai ddiddordeb dwfn mewn addysg wyddonol a chyhoeddodd amryw erthyglau. Bu'n is-lywydd Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1956-64, ac yn llywodraethwr Coleg Technoleg Uwch Cymru. Gwasanaethodd ar bwyllgor Robbins ar addysg uwchradd, 1961-63, a daeth yn aelod o'r Cyngor Hyfforddi Canolog newydd yn 1964. Yn 1956 etholwyd ef yn gadeirydd cyntaf Amgueddfa Diwydiant De Cymru. Gwnaed ef yn C.B.E. yn 1953 am ei waith cyhoeddus, a gradd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1962. Yn 1925 priododd â Phyllis May Hemming. Bu iddynt un ferch a gwnaethant eu cartref yn The Meadows, Llandeilo Ferwallt, ger Abertawe. Bu farw 1 Rhagfyr 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.