STRACHAN, GILBERT INNES (1888 - 1963), Athro meddygaeth

Enw: Gilbert Innes Strachan
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1963
Priod: Olive Strachan (née Andrews)
Rhiant: Agnes Strachan (née Todd)
Rhiant: James Strachan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro meddygaeth
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd ym Mryste ym mis Awst 1888, mab James ac Agnes Strachan. Addysgwyd ef yn ysgol uwchradd a Phrifysgol Glasgow a graddio mewn meddygaeth yn 1910. Aeth i Ysbyty Llundain hyd Rhyfel Byd I pryd y daeth yn gapten yn adran feddygol y fyddin. Daeth i Gaerdydd yn 1919 fel patholegydd cynorthwyol i astudio erthyliadau. Chwaraeodd ran fawr yn sefydlu ysgol glinigol yng Nghaerdydd. Yn 1932 penodwyd ef yn Athro obstetreg a gynaecoleg yn Ysgol Feddygol Cymru, a pharhaodd yn y swydd hyd nes ymddeol yn 1953. Yr oedd yn ddarlithydd rhugl, ac er ei fod yn athrawiaethol, symbylai ei wrandawyr, a gadawodd argraff ddofn ar genedlaethau o fyfyrwyr. Gweithiodd yn ddiflino yn yr ysbyty, a chynnal practis breifat. Arloesodd mewn trin cancr y groth gyda radiwm a chyfrannodd yn helaeth ar y pwnc i lenyddiaeth feddygol. Ysgrifennai'n rhwydd a chlir ar amryw destunau a chyhoeddodd werslyfr safonol, Textbook of obstetrics (1947). Gwasanaethai Brifysgolion Cymru, Birmingham, Bryste a Rhydychen fel arholwr yn ei bwnc. Aeth i Sydney a Melbourne, Awstralia, yn 1950 i ddarlithio ac arholi myfyrwyr ar ran y Coleg Brenhinol i Fydwyr a Gynaecolegwyr yr oedd ef yn aelod sylfaenol ohono ac y daeth yn is-lywydd iddo, 1952-55. Cymerai ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth a'r celfyddydau. Cyflwynodd lawer o'i gasgliad gwych o borslen Spode a Tseina i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Derbyniodd C.B.E. yn 1953.

Priododd Olive Andrews yn 1920 a bu iddynt un mab. Gwnaeth ei gartref yn 29 Cathedral Road, Caerdydd, lle y bu farw 9 Rhagfyr 1963.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.