Ganwyd 5 Awst 1889 yn fab William a Hannah Thomas, Abermiwl, Trefaldwyn, lle'r oedd ei dad yn of a phost-feistr. Addysgwyd ef yn ysgol sir y Drenewydd a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd mewn Saesneg yn 1910. Bu'n aelod gwerthfawr o dimau pêl-droed y coleg a'r dref. Treuliodd flwyddyn arall yn Aberystwyth cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle cafodd radd M.A. yn 1913. Y flwyddyn honno penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Toronto, Canada, a daeth yn Athro Saesneg Hŷn ym Mhrifysgol Saskatchewan yn 1919, ar ôl gwasanaethu yn Ffrainc yn ystod Rhyfel Byd I. Yn 1921 dychwelodd i Gymru i fod yn Athro iaith a llenyddiaeth Saesneg cyntaf Coleg y Brifysgol oedd newydd ei sylfaenu yn Abertawe, a llanwodd y swydd gydag anrhydedd hyd ei farw. Bu'n gefn i'r coleg yn y dyddiau cynnar, gan wasanaethu'n ddoeth ar bwyllgorau a bod yn is-brifathro'r coleg, 1927-31. Yr oedd yn athro penigamp, yn hael ei gefnogaeth i'r myfyrwyr, ac yn feistr ar y grefft o arholi, nid yn unig wrth osod y papurau arholiad ond hefyd wrth fantoli'r atebion. Ymatebai'n rhwydd i syniadau ac ymboenai ynglŷn ag arddull. Ysgrifennai erthyglau bywiog, caboledig, ond ychydig iawn o'i waith a gyhoeddwyd gan mor feirniadol ydoedd o'i waith ei hun. Am flynyddoedd cynhaliodd ddosbarthiadau allanol llewyrchus yng Nghastell-nedd a'r cyffiniau ar lenyddiaeth Saesneg, a darlledodd sgyrsiau radio ar lenyddiaeth, barddoniaeth a phynciau eraill. Priododd ag Edith Mary, merch Richard Edwards, Maesycymer, yng nghapel Bedyddwyr Cymraeg Hengoed a bu farw yn ei gartref, 11 Clarendon Road, Sgeti, ar 6 Mawrth 1954.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.