Ganwyd 29 Mai 1885 yn Wrecsam, Dinbych, ail fab o dri phlentyn William Hamshaw Thomas (dilledydd dynion) a'i wraig Elizabeth Lloyd. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Grove Park, Wrecsam, a Choleg Downing, Caergrawnt lle'r aeth yn 1904. Ac yntau'n blentyn ysgol yr oedd wedi magu diddordeb deallus mewn botaneg a phlanhigion-ffosil, ac enillodd ddosbarth cyntaf yn rhan 1 y tripos Hanes Naturiol yn 1906. Aeth ymlaen i gymryd rhan 2 y tripos Hanes (2 ddos.) yn 1907 ar gyfer sefyll arholiad mynediad i'r Gwasanaeth Sifil yn 1908. Llwyddodd yn yr arholiad ond gwrthododd y swydd a gynigiwyd iddo gan ddewis gyrfa yn ymchwilydd ac ysgolhaig annibynnol yng Nghaergrawnt ac ymgynnal ar ddysgu a dwys-ddysgu personol. Penodwyd ef yn guradur Amgueddfa'r Ysgol Fotaneg 1909-23, yn Sublector Coleg y Drindod yn 1912, yn gymrawd o Goleg Downing yn 1914, ac yn ddarlithydd prifysgol yn 1923. Gwasanaethodd yn y Royal Flying Corps yn Ffrainc a'r Aifft yn ystod Rhyfel Byd I. Datblygodd dechnegau newydd mewn ffotograffio o'r awyr a gwnaeth ymchwil hefyd yn adran aeronawtig Caergrawnt. Enwyd ef ddwywaith mewn cadlythyrau a gwnaed ef yn M.B.E. Gwasanaethodd yn y R.A.F.V.R. gan ymwneud â dehongli ffotograffau o'r awyr yn 1939-43.
Cyhoeddodd ei bapurau cyntaf ar blanhigion ffosil yn 1908 a pharhaodd â'i astudiaethau o fflora Jurasaidd swydd Efrog a morffoleg planhigion; yr oedd llawer o'r ymchwil wedi'i sylfaenu ar ei gasgliadau maes ei hun yn hytrach nag ar gasgliadau amgueddfeydd. Ymddangosodd ei bapur pwysicaf a mwyaf creiddiol, ar y Caytoniales, yn 1925. Cyfraniad sylweddol i un o broblemau botaneg ffosilau, tarddiad planhigion blodeuol, ydoedd hwn, er bod ei syniadau ar forffoleg wedi achosi cryn sylw. Datblygodd ei ddiddordebau nid yn unig yn strwythur planhigion ffosil, lle'r oedd ei fethodoleg ddadansoddol yn newydd, ond hefyd ym meysydd lletach cyfnewidiadau esblygiadol a threfniadaeth corff y planhigyn gyda'r canlyniad fod ei gyfraniad i'r forffoleg planhigion 'newydd' yn ganolog. Daeth yn hanesydd syniadau mewn botaneg a bu iddo ran bwysig mewn sefydlu hanes gwyddoniaeth yn faes dewis yn y tripos Hanes Naturiol. Gŵr gwylaidd, anymwthgar, caredig ydoedd ond enillodd fri neilltuol, ac yng nghanmlwyddiant Darwin-Wallace (1958) barnwyd ei fod ymhlith yr 20 biolegydd ledled byd a oedd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i wybodaeth am esblygiad a chyflwynwyd iddo fedal coffa aur. Bu'n llywydd Cymdeithas Linnaeus, adran fotaneg y British Association, a Chymdeithas Brydeinig Hanes Gwyddoniaeth. Dyfarnwyd iddo fedal aur Cymdeithas Linnaeus yn 1906, Sc.D. Caergrawnt 1926, ac etholwyd ef F.R.S. 1934.
Priododd Edith Gertrude Torrance yn 1923 a bu iddynt 1 mab ac 1 ferch. Bu farw yng Nghaergrawnt 30 Mehefin 1962.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.