Ganwyd 1889, yr hynaf o saith o blant Jenkin ac Ann Thomas, Cilfynydd, Morgannwg. Pan oedd yn chwech oed symudodd y teulu i ardal Moreia, Aberystwyth, lle bu ei dad-cu, Jenkin Thomas (c. 1824 - 1865), yn weinidog (B). Aeth i weithio mewn siop yn Aberystwyth yn 13 oed ond ymhen 3 blynedd dychwelodd i'r de, i Abercynon, ac yno cymhellwyd ef i ddechrau pregethu. Aeth i Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin am 18 mis, ac i Athrofa Bangor (1911-14).
Ordeiniwyd ef yn 1914 yn weinidog ar Seion, Nefyn a Chaersalem, Morfa Nefyn, ac yn fuan iawn daeth yn un o bregethwyr amlycaf yr enwad. Bu wedyn yn Ninas Noddfa, Glandŵr, Abertawe (1919-23); Rehoboth a Clawdd-coch, Cilrhedyn, Sir Gaerfyrddin (1923-37); a Thabernacl, Cefnmawr, ger Wrecsam (1937-62). Ef oedd un o sêr disgleiriaf y Gymanfa. Yr oedd ei bregethau yn drefnus ac iddynt rym argyhoeddiad. Meddai lais dwfn a pheraidd a thraddodai mewn Cymraeg ystwyth a choeth.
Priododd yn 1923 â Nan Evans, Glanyrafon, Cenarth (a fu farw mewn damwain ar y ffordd, 28 Chwefror 1936). Bu ei chwaer, Rachel Ann Thomas, a ofalai amdano wedi hynny ym Mro'r Awelon, Acrefair, yn llywydd y Senana yng Nghymru. Bu ef farw 14 Mehefin 1962, yn fuan wedi ei ddyrchafu'n llywydd cymanfa'r Bedyddwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.