THOMAS, LEWIS JOHN (1883 - 1970), cenhadwr yn yr India dan Gymdeithas Genhadol Llundain

Enw: Lewis John Thomas
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1970
Priod: Hannah E. Thomas (née Mathews)
Plentyn: Iorwerth Thomas
Rhiant: Mary Thomas (née Williams)
Rhiant: Cefni Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr yn yr India dan Gymdeithas Genhadol Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Huw Ethall

Ganwyd 2 Chwefror 1883 yn Llangefni, Môn, yn fab Cefni a Mary (ganwyd Williams) Thomas. Symudodd y teulu pan oedd ef yn 5 oed i Riwbryfdir, Blaenau Ffestiniog. Wedi cyfnod fel disgybl-athro a gweithio ar y rheilffordd, symudodd i Gorwen ac yna i Benbedw. Yno daeth dan ddylanwad diwygiad 1904-05 a dechreuodd bregethu. Bu'n awyddus i fod yn genhadwr er yn ifanc.

Wedi bod yng Ngholeg Paton, Nottingham, ordeiniwyd ef yn Jerwsalem, Blaenau Ffestiniog, 12 Hydref 1911. Hwyliodd i'r India 4 Tachwedd 1911. Llafuriodd yn galed fel arolygwr nifer fawr o eglwysi yn y taleithiau lle siaredid Telugu. Ar ôl priodi â Hannah E. Mathews ym Madras, buont yn byw yn Cuddapah, Kamalapuram, Goety a Jammalamadugu. Ganed mab a merch iddynt. O 1927 hyd 1938 bu'n gyfrifol am seminâr i hyfforddi efengylwyr brodorol. O 1939 hyd 1949 bu'n ysgrifennydd-drysorydd i'r Gymdeithas Genhadol. Fel Annibynnwr digyfaddawd, bu'n wrthwynebydd i'r Eglwys Unedig er rhoi ei orau ymhob cydweithio.

Ymddeolodd yn 1949 o'r gwaith cenhadol ond derbyniodd ofalaeth eglwys Bresbyteraidd St. Andrews, Bangalore, lle'r oedd eu mab, Iorwerth, yn genhadwr a phennaeth ysgol ramadeg i fechgyn.

Collodd ei olwg yn 1954. Bu ei briod farw 13 Mai 1964 a bu yntau farw 17 Ebrill 1970 yn Bangalore lle claddwyd hwynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.