Ganwyd 19 Awst 1889 ym mhlwyf Gelligaer, Morgannwg, yn fab i David ac Elizabeth Thomas. Cafodd ei addysg yn Ysgol Lewis, Pengam, a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd yn B.A. mewn diwinyddiaeth (dosb. II), 1911. Aeth i goleg diwinyddol S. Mihangel, Llandâf, a'i ordeinio'n ddiacon, 1912, a'i drwyddedu i guradiaeth S. Ioan, Canton. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad 1913. Yn 1914 aeth yn gurad i Headington Quarry ger Rhydychen, ac yn aelod o Goleg S. Ioan, lle'r enillodd radd B.A. mewn diwinyddiaeth (dosb. III), 1916, ac M.A., 1920. Dychwelodd i Gaerdydd yn gurad S. Ioan, 1916-24. Cafodd fywoliaeth Llansawel (Briton Ferry), 1924, a bu yno hyd 1942, ond parhaodd i astudio ac ennill gradd B. Litt. Rhydychen, 1926; gradd B.D., yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, 1929, a D.D. yn 1930. Yn 1930 hefyd y cyhoeddodd ei lyfr safonol The Reformation in the old Diocese of Llandaff. Yr un flwyddyn cyhoeddodd The Life of Griffith Jones, Llanddowror, llyfryn a baratowyd gan Gyngor Ysgolion Sul esgobaeth Llandaf i ddathlu daucanmlwyddiant cychwyn yr ysgolion cylchynol yn 1731. Cafodd fywoliaeth Bargod yn 1942 a'i benodi'n ganon eglwys gadeiriol Llandaf, 1944. Symudodd i Aberafan 1946, a phan ffurfiwyd archddiaconiaeth Margam yn 1948, ef a ddewiswyd yn archddiacon cyntaf. Yr oedd ei ddawn fel gweinyddwr yn ei alluogi i gyflawni'r swydd yn dra effeithiol. Ymddeolodd o'r ficeriaeth yn 1958.
Priododd yn 1923 â Beatrice Lilian Williams, Crucywel, a chawsant un ferch. Bu farw 19 Hydref 1960, a'i gladdu ym mynwent Gelli-gaer.
Yr oedd ei wybodaeth am ddylanwad y chwyldro diwydiannol ar yr eglwys yn ne-ddwyrain Cymru yn drwyadl, a chredir mai baich ei ddyletswyddau beunyddiol a'i cadwodd rhag ysgrifennu llyfr ar y pwnc. Mewn hanes a hynafiaethau yr oedd ei ddiddordeb pennaf. Cyfrannodd erthyglau i'r Bywgraffiadur. Yr oedd pob siars a draddododd yn anghyffredin a di-dderbyn-wyneb. Yr oedd yn gymeriad nodedig a lle cynnes iddo yng nghalonnau ei bobl.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.