Ganwyd 13 Hydref 1903 yn fab i J. Lewes Thomas, Cae-glas, Llandeilo Fawr, Sir Gaerfyrddin, a'i wraig Anne Louisa (ganwyd Purdon). Addysgwyd ef yn Ysgol Rugby a Choleg Oriel, Rhydychen. Bu'n ymgeisydd (C) dros ranbarth Llanelli yn etholiad cyffredinol 1929, ond bychan fu'r gefnogaeth iddo; etholwyd ef yn A.S. dros ranbarth Henffordd yn 1931 a chadwodd y sedd tan 1955. Bu'n ysgrifennydd seneddol preifat mewn nifer o weinyddiaethau, 1930-40, ac yn arglwydd gomisiynydd y Trysorlys, 1940-43, ysgrifennydd i'r Morlys, 1943-45, ac Arglwydd Cyntaf y Morlys, 1951-56. Bu'n is-gadeirydd y Blaid Geidwadol, 1945-51, ac yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Rugby yn 1958. Dyrchafwyd ef yn Is-iarll Cilcennin yn 1955 ac yn farchog yn 1958. Cyhoeddwyd ei gyfrol Admiralty House, Whitehall dri mis wedi ei farwolaeth ar 13 Gorffennaf 1960 pryd daeth y teitl i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/