THOMAS, JOSEPH MORGAN (LLOYD) (1868 - 1955), gweinidog (U) a Chatholig Rhydd, a chynghorwr a dyn cyhoeddus

Enw: Joseph Morgan (Lloyd) Thomas
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1955
Priod: Alice Thomas (née Evans)
Rhiant: Elizabeth Thomas (née Lloyd)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (U) a Chatholig Rhydd, a chynghorwr a dyn cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David Elwyn James Davies

Ganwyd 30 Mehefin 1868, yn un o wyth o blant John ac Elizabeth Thomas, Blaen-wern, Llannarth. (Mabwysiadwyd yr enw ' Lloyd ', enw morwynol ei fam, pan fu farw ei frawd o'r un enw). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Ceinewydd a Choleg Crist, Aberhonddu. Cwblhaodd ei brentisiaeth yn y gyfraith gyda Mri. Walter H. Morgan a Rhys, cyfreithwyr, Pontypridd. Dechreuodd ymddiddori mewn crefydd, a chenhadu syniadau Undodaidd; yn un o dri yn sefydlu achos Undodaidd Pontypridd yn 1892, gan wasanaethu fel ysgrifennydd cyntaf yr eglwys honno; penderfynu mynd i'r weinidogaeth, a dilyn cwrs ar gyfer hynny yng ngholeg Undodaidd Manceinion, Rhydychen (1894-98); derbyn galwad i Eglwys Goffa (Gristionogol Rydd) Liscard, sir Gaer, yn 1898; ymbriodi (1899) ag Alice, merch David Evans (prifathrawes ysgol y merched, Pontypridd) Bodringallt, Rhondda. Ganwyd iddynt un mab a dwy ferch. Bu'n weinidog ar eglwys Undodaidd High Pavement, Nottingham, am ddeuddeng mlynedd, 1900-12, a chwarae rhan amlwg yn sefydlu Undeb gwasanaeth cymdeithasol y mudiad Undodaidd, a chael ei ethol yn un o'i lywyddion cyntaf. Treuliodd weddill blynyddoedd ei weinidogaeth yn gofalu am yr Old Meeting House, Birmingham, 1912-32. Cyfnod llwyddiannus a chythryblus fu hwn yn ei hanes ac yntau o dan ddylanwad rhesymoliaeth L.P. Jacks, ar y naill law, a chatholigiaeth W. S. Orchard ar y llaw arall, dau gyfaill mynwesol iddo. Daliodd i fod yn Undodwr eangfrydig, ond yr oedd eisoes wedi cyhoeddi pamffled ar A Free Catholic Church (1907), a gwelir datblygu'r syniadau hynny mewn pregeth a draddododd ym Mhontypridd ym mlwyddyn ei sefydlu yn Birmingham.

Yn 1916 dechreuodd gyhoeddi a golygu'r cylchgrawn, The Free Catholic, yn esbonio ac amddiffyn ei syniadau catholig. Dylanwadwyd arno gan y 'ddiwinyddiaeth newydd', ac yn yr un fl. cyhoeddodd ei bamffled, Free Catholic? A comment on R. J. Campbell's spiritual pilgrimage. Cafodd ei ddiwinyddiaeth yntau ddylanwad ar ei eglwys, canys yn 1918 cyhoeddodd bamffled, Tradition and outlook of the Old Meeting Church, ac yn 1921 bamffled arall, What the Old Meeting Church stands for. Diau mai ei waith yn y blynyddoedd hyn ar hunangofiant Richard Baxters a fu'n gyfrifol am ei freuddwyd o sefydlu eglwys gatholig yn cynnwys 'pob gwir Gristion yn y byd'. Cyhoeddodd ei dalfyriad o Reliquiae Baxterianae, gwaith pennaf ei fywyd, yn 1925, gyda chyflwyniad, nodiadau ac atodiad; ac yn 1928, pan sefydlwyd General Assembly yr Undodiaid ac Eglwysi Rhyddion Cristionogol, daeth cyfle iddo ef a'i gynulleidfa i dorri cysylltiad ag Undodiaeth, a oedd yn rhy enwadol yn ei olwg, a sefydlu enwad newydd o ysbryd eglwysig ac offeiriadol; galwai ei hun yn offeiriad Catholig rhydd, gan fabwysiadu arferion eglwysig, a llunio llyfr gwasanaeth cynhwysfawr, A Free Church Book of Common Prayer (1929), a'i gynnwys yn amrywio o Gredo Nicea i weddïau Martineau, ynghyd a'r Salmau a'r canticlau (yn y Cyfieithiad Awdurdodedig) wedi eu nodi'n gyflawn, am y tro cyntaf, ar gyfer eu llafar-ganu. Am gyfnod byr ni bu Lloyd Thomas heb ei edmygwyr a'i ganlynwyr, gan gynnwys rhai gweinidogion, a gwelwyd dylanwad ei syniadau uchel-eglwysig ar addurniadau ambell gapel Undodaidd (e.e. yn Bromwich ac Oldbury), eithr dihoeni a wnaeth y mudiad newydd yn ei fabandod, ac yn 1932 rhoes Lloyd Thomas y gorau i'r weinidogaeth.

Er na ddaeth dim o'i freuddwyd i uno'r enwadau teilynga'i alw'n arloeswr yn y maes hwnnw. Dychwelodd i fro'i febyd a threuliodd weddill ei oes yn ' Y Bwthyn ', Llannarth, gan barhau i bregethu'n achlysurol, darlithio ac ehangu ei syniadau catholig, fel yn ei ddarlith Dr. Williams, yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin (1941), ar Toleration and church-unity. Fel gŵr cyhoeddus, yn y cyfnod hwn, bu'n gwasanaethu ar gyngor sir Aberteifi ac yn gadeirydd ar ei bwyllgor ffyrdd; hybodd lwyddiant llyfrgell deithiol y sir a bu'n un o brif sefydlwyr Llyfrgell Ceredigion, a'i chadeirydd cyntaf. Gwasanaethodd ar bwyllgor addysg y sir, ac ar fwrdd llywodraethol ysgol ramadeg Aberaeron, fel aelod a chadeirydd. Cefnogodd Pauline Taylor, Blaen-wern, yr un a'i cynorthwyodd i olygu'r llyfr gwasanaeth, i arloesi ym myd addysg gerddorol yn ysgolion y sir, i sefydlu trecio merlod, a sicrhau parhad rhywogaeth meirch a gwartheg Cymreig.

Yr oedd yn broffwyd a gweledydd craff. Bu'n ŵr cydwybodol heb ofni pledio achosion y lleiafrif a'r amhoblogaidd; cefnogodd achos swffraget y merched, gan gyhoeddi pamffled o'u plaid, a chadeirio cyfarfodydd tanllyd Chrystabel Pankhurst; mentrodd fynegi peth cydymdeimlad ag achos y gelyn yng nghyfnod Rhyfel y Boer, ac yn ystod Rhyfel Byd I cyhoeddodd bamffled, The immortality of non-resistance and other sermons on the war (1915).

Er yn fodernwr rhybuddiai rhag moderniaeth arwynebol gul; ei syniad am addysg oedd dysgu meddwl yn onest, a rhybuddiai'r awdurdodau rhag mawrygu ysgolheictod ar draul esgeuluso dawn crefft a llafur dwylo, (cf. What is education for?, 1949). Yn ei femorandwm ar addysg grefyddol a ysgrifennwyd ar gais awdurdod addysg Ceredigion (1941), argymhellodd fwy o ddylanwad Cristionogol, mewn ysbryd gonest a goddefgar, gan rybuddio y gellid gweld yn sgîl y trydydd Rhyfel Byd (rhyfel syniadaeth a delfrydau) drai yn hanes crefydd a hunan-laddiad gwareiddiad byd. Yn ei bamffled, The humanising of industry (1919) rhagwelodd broblemau diwydiant, gan rybuddio rhag peirianeiddio dynion, cynhyrchu'r hyn sy'n diraddio a gwrthod cynrychiolaeth gweithwyr ar fwrdd rheolwyr a chyfarwyddwyr; mewn pregeth a gyhoeddodd yn 1944, God and the land, rhagwelodd broblemau cymdeithasol, gan rybuddio rhag wrbaneiddio'r wlad a difa gwreiddiau diwylliant a Christionogaeth sydd yng nghlwm wrth y tir.

Cyfrannodd yn gyson i gylchgronau, fel yr Hibbert Journal a'r Free Catholic, ac i bapurau fel y Welsh Gazette a'r Western Mail. Tua diwedd ei oes ymddiddorodd yng ngweithiau Kierkegaard. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae: The autobiography of Richard Baxter, abridged with notes, introductory essay and appendix (1925); A Free Church Book of Common Prayer (1929).

Ymhlith ei bamffledi y mae Dogma or doctrine? (1906); A Free Catholic Church (1907); The emancipation of womanhood (1913); Administration of the Lord's Supper or The Holy Communion (1914); The immortality of non-resistance and other sermons on the war (1915); Free Catholic? A comment on the Rev. R. J. Campbell's “Spiritual Pilgrimage” (1916); Tradition and outlook of the (Birmingham) Old Meeting Church (Birmingham 1918); The crucifix - a sermon (1918); The humanising of industry (1919); A comprehensive Church, What the Old Meeting Church stands for? (1921); Religious instruction in schools (1941); Toleration and church-unity (Dr. Williams, 1941); What is education for? (1949); golygydd The Free Catholic (1916-27).

Bu farw 2 Gorffennaf 1955 ac amlosgwyd ei gorff yng Nglyntaf, Gorffennaf 6. Bu farw ei wraig yn 1945. Goroeswyd ef gan ei fab a'i ddwy ferch. Rhoesant hwy gopïau caligraffig o'i lyfrau gwasanaeth ar gadw yn Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.