Ganwyd yn Bay View, Traeth Coch, Môn, 10 Ebrill 1892, unig fab a thrydydd plentyn Owen Thomas ac Isabella (ganwyd Morris), cantores o fri o Ddyffryn Nantlle. Symudodd y teulu i'r Pandy, Pentraeth, ac addysgwyd ef yn ysgol fwrdd y pentref cyn ei brentisio'n saer. Dechreuodd ganu dan hyfforddiant ei fam ac E.D. Lloyd (1868 - 1922), Bangor, ac ennill ysgoloriaeth agored allan o bedwar can ymgeisydd i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn 1914. Gadawodd Lundain yn 1917 i astudio gyda Jean de Reszke ym Mharis a Benjamino Gigli ym Milan.
Agorodd prif neuaddau cyngerdd gwledydd Prydain eu drysau i'r ' Welsh Tenor ', cyn agor yn La Scala, Milan yn 1925, symud i Monte Carlo a Nice a dod i Dŷ Opera Paris fel prif denor ar gyfer tymor 1927. Derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd er anrhydedd fel ' Ifor o Fôn ' y flwyddyn honno, fis cyn hwylio am T.U.A.
Er iddo ymddangos gyda Chwmni Opera Philadelphia yn 1928, dychwelodd o fyd yr opera i fyd y llwyfan gyngerdd, darlledu a recordio i gwmnîau H.M.V. a Sanders. Daeth yn ffefryn mawr gyda Chymry'r Taleithiau ac fe'i galwyd 'yr ail Evan Williams gyda thinc o Garuso.' Canodd hefyd gyda phedwarawdau blaenllaw'r wlad gan ffurfio un ei hun o brif leiswyr Cymreig Efrog Newydd - 'The Four Aces.' Ar y llwyfan operatig canodd gyda mawrion fel Caruso (fel ei ddirprwy), Chaliapin a McCormach ym Milan, Roxas, Frances Alda a Kathryn Meisle.
Daeth ei yrfa gerddorol fel unawdydd i ben yn drychinebus yn 1929, oherwydd diffyg ar ei anadl (hen afiechyd a'i cadwodd o ysgol ramadeg Llangefni yn ei blentyndod). Ofer fu'r ymgais i wella'n llwyr yn yr Eidal yn 1931, er iddo berfformio ychydig yn 1932 cyn derbyn swydd fel ffotograffydd i gylchgrawn Colliers y flwyddyn ddilynol. Gwnaeth enw mawr iddo'i hun fel ffotograffydd yn enwedig gyda'i ddarluniau o'r Arlywydd F.D. Roosevelt, Winston Churchill a llu o sêr y byd ffilmiau. Wedi ymddeol yn 1948 trodd at arlunio a phaentio mewn olew a dyfrlliw ac arddangoswyd ei waith yn T.U.A. a Phrydain.
Yr oedd yn Gymro brwd, (Cymreigiodd ei enw canol yn Owain) a chroesawodd ugeiniau lawer o'i gydgenedl i'w gartref yn Efrog Newydd dros y blynyddoedd. Ystyrid ef yn un o brif gynheiliaid bywyd Cymreig y ddinas a'r capel Presbyteraidd Cymraeg, ac fel arweinydd Côr Merched Cymry 'r ddinas o 1944 ymlaen.
Bu farw ar ddydd ei ben-blwydd yn 1956, wedi afiechyd hir. Daethai drosodd i Gymru am y tro olaf flwyddyn ynghynt. Claddwyd ef ym mynwent Forest Lawns, Delwanna, N.J.
Priododd ddwywaith. (1) gyda Ceridwen Evans yn 1920. Ganwyd merch o'r briodas a fu farw yn 1922. Diddymwyd y briodas gyntaf, ac yn (2) gyda Mildred Unfried, pianydd proffesiynol o Efrog Newydd, a'i goroesodd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.