Ganwyd 27 Hydref 1861 yn fab i Mary Thomas (ganwyd Phillips) a'i gŵr, Treorci, Morgannwg. Gadawodd yr ysgol leol yn 12 oed i weithio yn swyddfa cwmni Ocean Coal yn 1874; daeth yn rheolwr cyffredinol yn 1926, gan ymddeol yn 1933 ond parhaodd i fod yn gyfarwyddwr y cwmni (1927-37) yn ogystal â chyfarwyddwr llawer o gwmnïau glo eraill. Yr oedd yn adnabyddus iawn fel trefnydd gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw ' Gwilym Rhondda ' yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1883 am ei gefnogaeth i lên a cherddoriaeth. Cymerodd ran amlwg yn y bywyd crefyddol, gan wasanaethu Undeb y Bedyddwyr fel trysorydd (1924-28) a llywydd (1928); bu'n drysorydd Undeb Bedyddwyr Ieuainc Cymru, ac ysgrifennydd cymanfa Bedyddwyr cylch Rhondda Uchaf am dros 50 mlynedd. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn gwella amgylchiadau gwaith y glowyr a threfnodd ddosbarthiadau technegol llewyrchus iawn iddynt. Ac yntau'n ysgrifennydd ysbyty Pentwyn, trefnodd eisteddfod is-genedlaethol Treorci am 60 mlynedd yn ogystal ag wythnos ddrama flynyddol a gweithgareddau eraill er budd yr ysbyty. Bu'n Y.H. ac yn aelod o gyngor dosbarth trefol Rhondda am dros 25 mlynedd, gan fod yn gadeirydd 1913-14. Priododd, 1887 Elizabeth Devonald (marw 7 Awst 1955). Bu iddo fab a dwy ferch. Wedi iddo ymddeol ymgartrefodd yn Hafod, Victoria Avenue, Porth-cawl, Morgannwg, lle y bu farw 2 Awst 1954 a chladdwyd ef yn Nhreorci.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.