Ganwyd 8 Ionawr 1891 yn Yspyty Ifan, Dinbych, yn fab i Robert E. Thomas a'i wraig Jane, ond symudodd y teulu i Drefriw, Sir Gaernarfon, ac addysgwyd ef yn ysgol sir Llanrwst. Aeth i Awstralia c. 1908. Yr oedd yn saer coed crefftus iawn a cheir llawer o baneli pren o'i waith yn adeiladau cyhoeddus Melbourne.
Gan y gwyddai'r anawsterau a wynebai ymfudwyr âi i gyfarfod pob llong o Brydain a gofalu fod gan bob Cymro a ddeuai i'r lan lety i fynd iddo. Yr oedd yn weithiwr diarbed a brwdfrydig iawn ymhlith y Cymry. Bu'n ysgrifennydd (1932-58) y Cambrian Society a gyfarfyddai unwaith y mis yn Neuadd Dewi Sant, Stryd Latrobe, Melbourne, pryd y cynyddodd yr aelodaeth o tua 30 i dros 300, a bu'n llywydd yn 1958-59. Cyfrannai golofn i gylchgrawn y gymdeithas, The Cambrian, tra parodd (1939-46), ac i'r Welsh Australian cyn hynny (1938-39). Bu'n ysgrifennydd Undeb y Cymdeithasau Cymreig er 1932 ac ef, fel ysgrifennydd (1934-53) Cymdeithas Gŵyl Ddewi, a drefnai'r dathliadau blynyddol; ef oedd y llywydd yn 1955. Cadwai mewn cysylltiad â Chymru; etholwyd ef yn is-lywydd y Cymry ar Wasgar yn 1960 ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1957. Priododd 7 Awst 1915 â Gwladys B. Davies, Maryborough, a bu iddynt bump o blant. Gwnaethant eu cartref yn Ael-y-bryn, 77 Stryd Murray, Caulfield, Victoria. Bu farw 6 Medi 1964 a chynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Cymraeg Stryd Latrobe. Claddwyd ef ym Mynwent Newydd Cheltenham.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.