Ganwyd 4 Mai 1886, y seithfed o 11 plentyn Lewis Thomas a'i briod, Sophia (ganwyd James), Pen-yr-ardd, Clunderwen, Penfro. Addysgwyd ef yn ysgol sir Arberth, a Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle cafodd B.Sc. dosbarth cyntaf mewn botaneg, gyda daeareg yn bwnc atodol. Ac yntau'n Victor Ludorum mewn chwaraeon, rhedai dros y coleg. Wedi gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed a chyn mynd i'r coleg bu'n athro didrwydded yn ysgol elfennol Pontyberem, yn ysgol fwrdd Arberth ac mewn ysgol breifat yn Taunton. Ar ôl graddio yn 1913, penodwyd ef yn aelod o Wasanaeth Amaethyddol yr India. Ymunodd â'r Coleg Amaethyddol yn Coimbatore, De'r India, gan ddod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Amaethyddiaeth Madras. Yn 1917 aeth i Fesopotamia (Irac yn awr) fel Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Amaethyddol. Yr oedd yn gapten yn y Mesopotamia Expeditionary Force er mwyn ei alluogi i wneud y gwaith. Dyrchafwyd ef yn gyrnol, a daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Amaethyddiaeth yn 1920. Yn 1925 ymddeolodd o wasanaeth y llywodraeth, a threuliodd beth amser yn teithio yn T.U.A., yr Aifft, Swdan, a Mecsico, yn astudio dulliau o dyfu cotwm. Yn 1927 ymunodd â'r British Cotton Growing Association yn Khanewal, Punjab, India. Prynodd dir yn Sind yn 1931 a chychwyn ffermio yn yr ardal oedd newydd ei dyfrhau gan Argae Sukkur, gyda'r amcan o wella ffermio yn gyffredinol, a chotwm yn arbennig. Yn Rhagfyr 1944 penodwyd ef yn Weinidog Amaethyddiaeth Llywodraeth Sind ond y flwyddyn ganlynol ymddeolodd oherwydd pwysau politicaidd cyn i'r wlad gael ei hannibyniaeth, ond parhaodd i wasanaethu fel Cynghorwr. Yn 1940 derbyniodd C.I.E. ac urddwyd ef yn farchog yn 1947. Cyn ac ar ôl Rhyfel Byd I bu'n aelod o lawer o bwyllgorau yn yr India cyn iddi ymrannu, ac yn Pacistân wedi hynny. Ymhlith ei waith cyhoeddedig ceir: Planning for agriculture in India (1944); Drainage and reclamation of irrigated lands in Pakistan, including a report on a visit to the U.S.A. and Egypt 1949 (1949); Report on the draft of the Pakistan five-year plan (1956).
Yn 1939 priododd Margaret Ethelwynne Roberts o Ormskirk, sir Gaerhirfryn. Ganwyd eu hunig ferch, yn 1940. Bu ef farw 19 Medi 1960 a'i gladdu ym mynwent Blaenconin (B), Llandysilio, Clunderwen.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.