THOMAS, JOHN ROWLAND (1881 - 1965), arweinydd crefyddol a masnachwr amlwg

Enw: John Rowland Thomas
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1965
Priod: Lily Anna Thomas (née Jones)
Plentyn: Eluned Marian Thomas
Plentyn: Gwyneth Thomas
Plentyn: Morfudd Jenkins (née Thomas)
Rhiant: Ann Thomas
Rhiant: Griffith Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd crefyddol a masnachwr amlwg
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: William Thomas Owen

Ganwyd 2 Mawrth 1881 ym Mhenrhyndeudraeth, yn fab i Griffith ac Ann Thomas. Yn 1883 symudodd Griffith Thomas a'r teulu yn ôl i Ddwygyfylchi, Penmaen-mawr, i'w hen gynefin. O ysgol Pencae, Penmaen-mawr, enillodd John Rowland ysgoloriaeth i Ysgol Friars, Bangor, ond ar ôl dwy flynedd fe'i trosglwyddodd i ysgol newydd John Bright, Llandudno. O'r ysgol aeth i weithio am gyfnod byr gyda chwmni'r rheilffordd yng Nghyffordd Llandudno, ac yn ddeunaw oed aeth yn brentis am dair blynedd i siop Cloth Hall, Bethesda. Oddi yno aeth i weithio yn adran sidan siop Thomas Lloyd (o Lanybydder) yn Llundain. Dyma ddechrau'r cyfnod a'i gwnaeth yn arbenigwr byd-enwog ym myd sidan. Wedi i gwmni Selfridges brynu siop Lloyd yn 1914, arhosodd gyda hwynt am bum mlynedd. O 1919 hyd 1920 (deunaw mis) bu'n gynorthwywr i'r prynwr sidan yn Harrods; o 1920 hyd 1922 yn brynwr sidan cwmni Derry & Toms, Kensington; o 1922 hyd 1930 yn brynwr sidan Harrods; ac o 1930 hyd 1953 yn brif brynwr sidan Partneriaeth John Lewis, ac o 1935 hyd 1953 yn un o gyfarwyddwyr y cwmni. Gan fod adran sidan siop John Lewis yn Llundain ar ei phen ei hun yn cyflogi 130 o ddynion a bod i'r bartneriaeth nifer o siopau ledled y deyrnas, gellid ystyried ' J.R. ' (fel y gelwid ef gan bawb) yn brif brynwr sidan Ewrob, ac, o bosibl, y byd. Teithiai'n gyson ar y Cyfandir ynglŷn â'i waith.

Bu'r un mor egnïol ym mywyd crefyddol a Chymreig Llundain. O 1902 hyd 1965 bu'n aelod o eglwys Y Tabernacl, King's Cross, yn ddiacon o 1921 hyd 1965 ac yn ysgrifennydd o 1940 hyd 1953. Ef hefyd oedd golygydd Y Lamp, cyfnodolyn yr eglwys, o'i gychwyniad. Yn ystod dirwasgiad y 1930au pan ddylifai Cymry i Lundain, yr oedd yn effro i'r angen am eglwysi Cymraeg ar eu cyfer ym maestrefi'r brifddinas. Ym Mehefin 1936, ac yntau'n ysgrifennydd y cyfundeb, traddododd anerchiad i'r cwrdd chwarter ar y testun ' Ehangu'r Terfynau ' a chanlyniad uniongyrchol hyn oedd sefydlu pwyllgor i ymgymryd â'r gwaith. Sefydlwyd eglwysi Annibynnol yn Slough, Luton a Harrow, a ' J.R. ' ei hunan, yn anad neb, oedd yn gyfrifol am sefydlu'r achos yn Harrow yn 1937, eglwys a dyfodd yn gyflym dan ei arweiniad i fod yn agos i 200 o aelodau mewn llai na dwy fl. Gan iddo gael ei ethol yn ddiacon cyntaf ac yn ddiacon am ei oes gan yr eglwys a sefydlodd yn Harrow, bu, am wyth mlynedd ar hugain, yn ddiacon, ar yr un pryd, mewn dwy eglwys! Arweiniai hefyd yn enwad yr Annibynwyr. O 1941 hyd 1952 bu'n drysorydd Undeb yr Annibynwyr ac yn gadeirydd o 1949 hyd 1950, ei anerchiad o'r gadair yng Nghaernarfon ar y testun ' Yr alwad i symud ymlaen ' yn amlygu'r un sêl genhadol a'r un anesmwythyd crefyddol ag a'i nodweddai gydol ei oes. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr gweithgar y Gymdeithas genhadol dramor (L.M.S.).

Hybai bopeth Cymreig a Chymraeg. Yn 1925 yr oedd ar y blaen yn cychwyn cymdeithas sir Gaernarfon yn Llundain a bu'n flaenllaw (c. 1930) yn sefydlu adrannau o Urdd Gobaith Cymru mewn nifer o eglwysi Cymraeg Llundain. Yr oedd yn un o is-lywyddion cyntaf Cwmni Urdd Gobaith Cymru. Bu'n llywydd Undeb Cymdeithasau Eglwysi Cymraeg Llundain ac yn gefnogwr selog ar hyd ei oes.

Priododd yn 1913 â Lily Anna Jones (a fu farw 1964), Cymraes a anwyd yn Llundain. Yr oedd drws agored yn eu cartref, ' Y Nant ' yn Dollis Hill, i lu o Gymry ac yn arbennig i weinidogion yr efengyl. Bu iddynt dair merch; Morfudd, a briododd J. Idris Jenkins, gweinidog cyntaf yr eglwys Annibynnol Gymraeg yn Harrow; Gwyneth; ac Eluned Marian a ymfudodd i Toronto, Canada, ac a fu'n llywydd Cymdeithas Cymanfa Ganu Genedlaethol Cymry Gogledd yr Amerig o 1976 hyd 1978. Bu ef farw 16 Ebrill 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.