Ganwyd c. 1887 yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig, yn fab i William Thomas. Addysgwyd ef yn lleol cyn iddo ddechrau gweithio mewn busnes newyddiadurol. Wedi Rhyfel Byd I dychwelodd i ddilyn camre ei dad yn brif gyfarwyddwr swyddfa Gwasg Caxton yng Nghroesoswallt a dod yn gadeirydd Woodall, Minshall, Thomas a'r Cwmni, Croesoswallt, a gynhyrchai'r Border Counties Advertizer. Sefydlodd y Wrexham Leader yn 1920 a chymryd at y Montgomeryshire Express, ac yn 1932 datblygodd Y Cymro (gynt o Ddolgellau) yn bapur cenedlaethol. Yn 1921 prynodd y cwmni cyhoeddi llyfrau Cymraeg, Hughes a'i Fab, ynghyd â Gwasg y Dywysogaeth (Principality Press), Wrecsam. Er na siaradai Gymraeg ei hun, gweithiodd yn ddygn i gynnal yr iaith. Gyda chyngor panel o ysgolheigion blaenllaw a chymorth awduron llwyddodd i argraffu a chyhoeddi cyflenwad cyson o lyfrau, cyfnodolion a newyddiaduron Cymraeg, a chydnabuwyd ei wasanaeth dros yr iaith trwy ei ethol yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1947. Datblygodd hefyd weithgarwch cerddorol y wasg. Yr oedd ef ei hun yn gerddorol, gydag ef a'i wraig, Elizabeth (ganwyd Parry), yn organyddion Capel Oswald Road (MC), lle yr oedd ef yn flaenor. Yr oedd hefyd yn Ynad Heddwch, a bu'n is-gadeirydd mainc ynadon Croesoswallt. Trosglwyddodd y busnes cyhoeddi i'w fab, Eric Lionel Thomas, cyn ymddeol a symud i Landegfan, Môn. Bu farw yn ddisymwth, 17 Mai 1959, ar ei ffordd i ysbyty Harrogate.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.