Ganwyd 14 Medi 1894 yn Zion Hill House, Trefgarn, Penfro, yn fab i David Garro-Jones, gweinidog (A), a Sarah (ganwyd Griffiths). Addysgwyd ef yn Ysgol Caterham a gwasanaethodd gyda'r Denbighshire Yeomanry, 1913-14, ac yn Ffrainc gyda 10fed gatrawd y South Wales Borderers a'r Royal Flying Corps, 1915-17, gan ddod yn ddiweddarach yn gapten er anrhydedd yn y Llu Awyr Brenhinol. Yn 1918 aeth i'r Amerig yn swyddog ymgynghorol i Wasanaeth Awyr T.U.A., a dychwelyd i fod yn ysgrifennydd preifat i Syr Hamar Greenwood, 1919-21. Ac ef yn ŵr amryddawn, egnïol, galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn yn 1923 tra oedd yn olygydd Llundain y Daily Despatch, ond ymddiswyddodd o'r olygyddiaeth ymhen dwy fl. pan etholwyd ef yn A.S. (Rh) De Hackney, 1924-29. Yn 1928 aeth i Nigeria fel aelod o Ddirprwyaeth Seneddol yr Ymerodraeth i ymchwilio i amgylchiadau masnach yno. Yn hwyr yn 1929 ymunodd â'r blaid Lafur (ond ailymunodd â'r Rhyddfrydwyr yn 1958), ac ef oedd y Cymro cyntaf i gynrychioli etholaeth Albanaidd pan etholwyd ef yn A.S. (Ll) Aberdeen, 1935-45. Yn y cyfamser cychwynnodd bractis yn 1939 ar Gylchdaith De Cymru. Bu am dair blynedd yn ysgrifennydd seneddol i'r Weinyddiaeth Gynhyrchu, 1942-45, yn ddirprwy gadeirydd y Bwrdd Radio, yn gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Teledu, 1946-49, a chadeirydd cyntaf Corfforaeth Datblygu'r Trefedigaethau o 1947 hyd 1950 pryd yr ymddeolodd wedi methiant Cynllun Wyau Gambia. Dyrchafwyd ef i'r arglwyddiaeth yn 1947. Cyhoeddodd Jurisdiction of the railway rates tribunal (1922), a'i brofiad yn y rhyfel yn Ventures and visions (1935). Priododd, 9 Mai 1940, ag Elizabeth Churchill, a bu iddynt dri mab ac un ferch. Bu farw 27 Medi 1960.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.