Ganwyd 17 Chwefror 1871, yn ail fab John Simon Tregoning o Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a Launceston, a'i wraig Sophia (ganwyd Morris; o Lerpwl). Addysgwyd ef yn Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn wneuthurwr tunplat a chyfarwyddwr Cwmni John S. Tregoning Cyf. (un o weithfeydd tunplat cyntaf Llanelli), Bynea Steel Works Ltd., St. David's Tinplate Co., a chwmnïau eraill. Yr oedd yn un o sylfaenwyr ac ymddiriedolwyr y Welsh Plate and Sheet Manufacturing Association, yn aelod o'r International Tinplate Association a'r National Food Canning Council cyn Rhyfel Byd II. Bu'n hael ei gefnogaeth i'r Eglwys yng Nghymru, a'i gwasanaethu trwy fod yn aelod o'r llys llywodraethol ac yn drysorydd a chadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi o 1923 ymlaen. Bu'n gadeirydd nodedig o lys ynadon Llanelli am lawer o flynyddoedd ac ymddeolodd yn 1950 ar ôl bod yn Y.H. am 36 mlynedd.
Priododd yn Hydref 1901 â Nancy, merch J. Beavan Phillips, a bu iddynt bedwar mab a dwy ferch. Ymgartrefodd yn Portiscliff, Glanyfferi, Llanismel, Sir Gaerfyrddin, a bu farw 9 Mawrth 1957.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.