Ganwyd 21 Tachwedd 1901, ym Merthyr Tudful, yn fab i Lewis Treharne ac Ethel Mary (ganwyd Hill) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Ashton-in-Makerfield, sir Gaerhirfryn, a Phrifysgol Manceinion, lle y graddiodd yn 1922 gyda gwobr ac ysgoloriaeth ymchwil, ac M.A. gan ennill Cymrodoriaeth Langton yn yr un brifysgol yn 1923, a Ph.D. yn 1925. Penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn 1925 a'i ddyrchafu'n ddarlithydd yn 1927, ym Mhrifysgol Manceinion, ac yn 1930 symudodd i Aberystwyth i gadair Hanes yng Ngholeg y Brifysgol a threulio gweddill ei oes gyda mawr barch yno. Etholwyd ef yn F.R.Hist.S. yn 1932. Bu'n flaenllaw yn y Gymdeithas Hanes ac yn llywydd iddi, 1958-61. Traddododd ddarlith Raleigh i'r Academi Brydeinig yn 1954. Daliodd Gymrodoriaeth ymchwil Leverhulme, 1946-47, a bu'n Athro ar ymweliad â Phrifysgolion Otago a Canterbury yn 1965. Bu'n olygydd History o 1947 hyd 1956. Cyhoeddodd nifer o lyfrau safonol ar hanes ac erthyglau niferus; yn eu plith Baronial plan of reform 1258 to 1263 (1932), The Battle of Lewes in English history (1964), The Glastonbury legends (1967), Essays on thirteenth-century England (1971), a golygiadau o atlasau hanesyddol Muir. Bu'n is-brifathro'r coleg yn Aberystwyth, 1952-54, a thrachefn yn 1957, swydd a lanwodd gydag urddas. Yr oedd yn ddarlithydd gwych. Gwnaeth lawer i godi safon Adran Hanes y coleg a oedd yn bur isel cyn ei ddyfodiad yn ddyn ieuanc. Priododd, 1928, Ellen, merch Arthur Roberts, Tyldesley, sir Gaerhirfryn, a bu hithau'n weithgar ym mywyd y dref a'r coleg, ac yn hael ei lletygarwch i fyfyrwyr. Yr oedd yn ynad heddwch am flynyddoedd. Bu iddynt un ferch. Bu'r Athro farw 3 Gorffennaf 1967.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.