Ganwyd 28 Rhagfyr 1882, yn fab i Syr Francis Wollaston Trevor o'r Trawscoed, Y Trallwng, Trefaldwyn, a Mary Helen (ganwyd Mytton). Addysgwyd ef yng Ngholeg Wellington a'r Royal Indian Engineering College, Coopers Hill. Yn 1903 ymunodd â Gwasanaeth Coedwigoedd yr India fel gwarchodwr cynorthwyol yn y Punjab. Yr oedd yn warchodwr coedwigoedd y Taleithiau Unedig yn 1920 a daeth yn is-lywydd ac Athro coedwigaeth yn Forest Research Institute Dehra Dun yn 1926, a'i ddyrchafu'n brif warchodwr coedwigoedd y Punjab a thalaith y North West Frontier, 1930-33. Ef oedd Prif Arolygydd Coedwigoedd Llywodraeth yr India o 1933 i 1937, a chynrychiolodd yr India yng Nghynadleddau Coedwigaeth yr Ymerodraeth yng Nghanada yn 1923, Awstralia a Seland Newydd yn 1928, a De Affrica yn 1935.
Cyhoeddodd Revised working plan for the Kulu forests (1920); ar y cyd ag E.A. Smythies, Practical forest management (1923); ac ar y cyd â H. G. Champion, A manual of Indian silviculture (1938).
Yn 1937 gwnaed ef yn farchog, ac ymddeolodd a dychwelyd i'r hen gartref yn y Trawscoed, Y Trallwng, Trefaldwyn, lle y cymerodd ddiddordeb byw yn ei fuches odro a'i fferm ddefaid, Fron y Fele, Cegidfa. Yno magodd ddiadell o ddefaid Ceri a enillodd amryw wobrau. Yr oedd yn aelod blaenllaw o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac yn flaengar gyda phob gweithgaredd amaethyddol. Am 17 mlynedd gwasanaethodd fel ynad heddwch, ac ef oedd Uchel Siryf ei sir yn 1941. Yn 1912 priododd ag Enid Carroll Beadon a bu iddynt dair merch. Bu farw 20 Mai 1959.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.