TUDOR, STEPHEN OWEN (1893 - 1967), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: Stephen Owen Tudor
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1967
Priod: Ann Tudor (née Hughes Parry)
Rhiant: Hannah Tudor
Rhiant: Thomas Tudor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 5 Hydref 1893 yn Llwyn-y-gog, Staylittle, plwyf Trefeglwys, Trefaldwyn, mab Thomas a Hannah Tudor. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Drefnewydd, a bu'n gwasanaethu yn ystod Rhyfel Byd I yn Ffrainc gyda'r Gwarchodlu Cymreig. Cafodd brofiadau mawr yn ystod y rhyfel, a theimlodd yr alwad i'r weinidogaeth o'r herwydd. Aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn athroniaeth), ac i Goleg Lincoln, Rhydychen (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth). Enillodd ysgoloriaeth David B. Mills, a'i galluogodd i barhau ei efrydiau yn yr Union Theological Seminary, Efrog Newydd, T.U.A. Bu'n gweinidogaethu am dymor fel bugail-fyfyriwr yn eglwys y Marsden, Saskatchewan, Canada. Dychwelodd i Gymru, ac ordeiniwyd ef yn 1927. Bu'n gweinidogaethu yn y Gaerwen a Phensarn Berw, Môn (1927-29); y Tabernacl, Porthmadog (1929-35), a Moriah, Caernarfon (1935-62). Yng nghyfnod Rhyfel Byd II gwasanaethodd fel caplan yn y fyddin. Ar ôl ymddeol, aeth i fyw i Fae Colwyn, gan fwrw golwg dros eglwysi Llanddulas a Llysfaen. Priododd 1927, Ann Hughes Parry o Fachynlleth; ganwyd dau fab a dwy ferch o'r briodas. Bu farw 30 Mehefin 1967, a chladdwyd ei weddillion yn Llawr-y-glyn, Trefaldwyn.

Yr oedd yn ffigur amlwg ym mywyd ei Gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1966), a thraddododd y Ddarlith Davies (1959) ar ' Athrawiaeth yr Ymgnawdoliad ', ond nis cyhoeddodd. Yr oedd ganddo feddwl craff, a magodd argyhoeddiadau cryfion gan eu mynegi'n gadarn o'r pulpud ac yn y wasg. Ysgrifennodd lawer i'r Traethodydd, Y Drysorfa, Y Brython a'r Goleuad, a bu'n golofnydd cyson am flynyddoedd yn y ddau olaf, colofn hawl ac ateb, tan y ffugenw ' Theophilus ' yn yr olaf. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar faterion crefyddol: Protestaniaeth (1940), Ein cymunwyr ieuainc (1947), a Beth yw Calfiniaeth? (1957). Cyhoeddodd hefyd ddwy stori dditectif; Cyfrinach yr afon (1934), a Tranc y rheolwr (1937); a chyn diwedd ei oes cyhoeddodd gasgliad o ysgrifau, Hen raseli ac ysgrifau eraill (1966).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.