VAUGHAN, WILLIAM HUBERT (1894 - 1959), giard rheilffordd a chadeirydd y Welsh Land Settlement Society

Enw: William Hubert Vaughan
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1959
Priod: May Vaughan (née Bishop)
Rhiant: Catherine Vaughan
Rhiant: Henry Charles Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: giard rheilffordd a chadeirydd y Welsh Land Settlement Society
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 21 Mawrth 1894, yn fab Henry Charles a Catherine Vaughan, Tŷ-du (Rogerstone), Mynwy Addysgwyd ef yn Eastern School, Port Talbot. Fel ei dad a dau o'i frodyr, cafodd waith ar y rheilffordd, lle treuliodd 51 mlynedd, 34 ohonynt fel giard. Enillodd barch mawr fel gŵr cyhoeddus ac ymgymerodd â gwaith gwirfoddol amrywiol iawn. Bu'n aelod o gyngor bwrdeistref Port Talbot, 1927-48, ac yn faer Port Talbot, 1941, gwnaed ef yn Y.H. yn 1949 ac ef oedd dirprwy lifftenant Sir Forgannwg, 1957. Cymerodd ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth, gan wasanaethu fel ysgrifennydd Plaid Lafur Etholaeth Aberafon o 1934 hyd ddiwedd ei oes. Bu'n aelod o Weithgor Amaeth Morgannwg o 1939 ymlaen, ac yn aelod o Bwyllgor Coedwigaeth Cenedlaethol Cymru er 1945. Yn 1948 penodwyd ef yn gomisiynydd fforestydd. Ac yntau'n cynrychioli Cymru, gwnaeth lawer i hybu'r cynllun uchelgeisiol o blannu coed y credai y byddai o fudd mawr i'r wlad. Fel aelod o Gomisiwn y Parciau Cenedlaethol er 1952 ef oedd yn bennaf gyfrifol am ddynodi Bannau Brycheiniog yn ardal o harddwch eithriadol. Etholwyd ef yn gadeirydd y Welsh Land Settlement Society Ltd. yn 1953; penodwyd ef i Gyngor Ymgynghorol Cymru y B.B.C. yn 1957; yr oedd yn aelod o Fwrdd Gwarchodaeth Aberdaugleddau, 1958, ac o Fwrdd Afonydd Morgannwg. Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r cyfnodolion Prydeinig, a chylchgronau gwleidyddol a rhai'r Undebau Llafur. Derbyniodd nifer o fedalau am wasanaeth yn y ddau Ryfel Byd, a gwnaed ef yn C.B.E. yn 1958 am ei wasanaeth cyhoeddus. Yn 1921 priododd May Bishop, a bu iddynt un ferch. Ymgartrefodd yn Wood Street, Tai-bach, cyn symud i Groeswen Ganol, Port Talbot. Bu farw yn ddisymwth yng ngorsaf Paddington, 17 Ebrill 1959, ar ei ffordd i un o gyfarfodydd y Comisiwn Coedwigaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.