WALTERS, THOMAS GLYN (WALTER GLYNNE; 1890 - 1970), tenor

Enw: Thomas Glyn Walters
Ffugenw: WALTER GLYNNE
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1970
Priod: Lena Walters (née Evans)
Rhiant: Elizabeth Walters (née Jones)
Rhiant: David Walters
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tenor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd 4 Ionawr 1890 yn fab i David ac Elizabeth (ganwyd Jones) Walters, Cefngorwydd, Tre-gŵyr, Morgannwg, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr. Bu'n gweithio mewn banc cyn penderfynu dilyn gyrfa gerddorol, ac yn 1910 enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Gwasanaethodd yn y Gwarchodlu Cymreig yn ystod Rhyfel Byd I. Yn 1921, ar awgrym Syr Landon Ronald, ymgynghorwr cerdd HMV, cafodd gytundeb i recordio gyda'r cwmni. Yr oedd yn un o'r cantorion cyntaf ym Mhrydain i ddarlledu, ac am fod ei lais yn gweddu i'r meicroffon cafodd yrfa lwyddiannus yn y cyfrwng hwnnw. Bu'n canu yn y lyric concerts a roddid yn Llundain gan gwmnïau Boosey, Chappell a Cramer, a chyda chwmnïau opera Carl Rosa a D'Oyly Carte. Recordiodd yn helaeth iawn, gan ragori mewn canu telynegol; adweinid ef yn arbennig am ei ddehongliad o faledi, ond yr oedd hefyd yn denor oratorio da, ac yn 1935 recordiodd ariâu o Messiah Handel. Ymhlith ei recordiau Cymraeg ceir rhannau o Blodwen Joseph Parry a baledi, rhai ohonynt i gyfeiliant lleisiol y Welsh Miners' Quartet o gylch Llanelli. Cymerodd ran mewn recordiadau cyflawn o Yeomen of the guard Gilbert a Sullivan a Hiawatha's wedding feast Coleridge-Taylor. Gwnâi ei ganu disgybledig, ei donyddiaeth bur, a'i bersonoliaeth hawddgar ef yn ddatgeinydd poblogaidd iawn. Ymddeolodd yn 1947 a symud i Fro Gŵyr. Priododd yn 1921 â Lena Evans, Pontarddulais, a bu iddynt blant. Bu farw yn ei gartref yn Port Einon, Morgannwg, 29 Gorffennaf 1970.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/