WHELDON, Syr WYNN POWELL (1879 - 1961), cyfreithiwr, milwr, gweinyddwr

Enw: Wynn Powell Wheldon
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1961
Priod: Megan Wheldon (née Edwards)
Plentyn: Nans Wheldon
Plentyn: Mair Wheldon
Plentyn: Tomas Powell Wheldon
Plentyn: Huw Pyrs Wheldon
Rhiant: Mary Elinor Wheldon (née Powell)
Rhiant: Thomas Jones Wheldon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, milwr, gweinyddwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Milwrol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Gwynn Williams

Ganwyd 22 Rhagfyr 1879, yn fab i'r Parch. Thomas Jones Wheldon a Mary Elinor Powell, Bronygraig, Ffestiniog, Meirionnydd. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor, yn High School Croesoswallt, yng Ngholeg y Brifysgol Gogledd Cymru - ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cyngor y Myfyrwyr, 1899 - B.A. 1900, ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (B.A. a LL.B. yn 1903, M.A. yn 1920). Yn 1906 cychwynnodd ar ei yrfa fel cyfreithiwr yn 63 Queen Victoria Street, Llundain, EC. Ymaelododd â nifer o gymdeithasau Cymreig Llundain (yn eu plith Cymdeithas y Cymmrodorion) a buan yr adnabu'n dda Gymry dylanwadol y ddinas. Ymunodd â'r fyddin yn ebrwydd a dibetrus yn 1914 a gwasanaethodd ym Mataliwn 14, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc o ddiwedd 1914 hyd Rhagfyr 1918. Ac yntau'n isbennaeth ac uchgapten, fe'i clwyfwyd, cyfeiriwyd at ei wrhydri mewn adroddiadau swyddogol ac enillodd y D.S.O. yn 1917. Ef oedd Ysgrifennydd a Chofrestrydd Coleg Bangor o 1919 hyd 1933 pan benodwyd ef yn Ysgrifennydd Parhaol Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Ymddeolodd yn 1945 ond ni bu pall ar ei weithgareddau cyhoeddus, ac enghreifftiau'n unig o'i wasanaeth gwiw yw'r swyddi a ganlyn: Cadeirydd Pwyllgor Cymru, Festival of Britain, 1951; Cadeirydd Cyngor Darlledol i Ysgolion Cymru; aelod o Lys a Chyngor Prifysgol Cymru, Is-lywydd Coleg Bangor a Llywydd Cymdeithas y Cymmrodorion. Urddwyd ef yn farchog yn 1939, ac yn K.B.E. yn 1952; rhoes Prifysgol Cymru iddo radd Doethur yn y Cyfreithiau (er anrhydedd) yn 1947 a Chymdeithas y Cymmrodorion ei Medal yn 1955. Bu farw ym Mhrestatyn 10 Tachwedd 1961 a phrofwyd ei ewyllys ar 18 Ionawr 1962.

Oherwydd ei graffter a'i gallineb yr oedd yn weinyddwr tan gamp a dawn ganddo i 'drefnu' pethau'n ddiffwdan. Cas oedd ganddo rodres ac ymffrost ac nid oedd flewyn ar ei dafod wrth anghymeradwyo gweithred ffolach na'i gilydd. Eithr gwr twymgalon ydoedd yn y bôn a chyfaill cywir. Synhwyrai deimladau a dyheadau ei gydwladwyr, ar bwyllgor ac ar faes y gad, ar lwyfan ac mewn oedfa. Glynodd yn ffyddlon i'r Hen Gorff; o dan ei ewyllys (ac eithrio'r teulu) y Tabernacl, Bangor (hen eglwys ei dad) a elwodd fwyaf. Bu'n lleygwr blaenllaw yn ei enwad, ac roedd ei arweiniad profiadol yn werthfawr iawn fel cadeirydd y Comisiwn ar Addysg i'r Weinidogaeth (1961) ac yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu'r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. Gŵr golygus, urddasol ydoedd, a cheir darlun pensel ohono gan S. Morse Brown, portread olew gan Kyffin Williams (1955), a phenddelw gan y Pwyliad Kustek Wojnarowksi (1958) (yn Ystafell y Cyngor, Coleg Bangor, ac un arall yn Archifdy Clwyd, Penarlâg).

Priododd Megan Edwards, Canonbury, Prestatyn, merch Hugh Edwards, Llundain, 31 Gorffennaf 1915. Ganed iddynt ddau fab, Huw Pyrs a Tomos Powell (a fu farw ychydig fisoedd cyn ei dad), a dwy ferch, Mair a Nans.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.