Ganwyd 12 Ionawr 1889 yn Stoke-on-Trent, yn fab i George Whitehead. Pedair blynedd yn ddiweddarach symudodd y teulu i Gaerdydd, lle y cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. O 1910 hyd 1916 yr oedd yn rheolwr Rank Mills yn nhref Truro. Yr oedd yn hoff o gerddoriaeth a chanai yng nghôr yr eglwys gadeiriol yn Truro ac yn Llandaf. Ar ôl gwasanaethu gyda'r awyrlu o 1916 hyd 1919, daeth yn gynorthwyydd i Frank Morgan, Cymrawd Coleg Keble, Rhydychen, ac ysgrifennydd Corff Cynrychioliadol newydd yr Eglwys yng Nghymru. Daeth Whitehead yn ysgrifennydd ar ei ôl yn 1935. Braidd yn awdurdodol oedd Whitehead, fel Morgan, gan fod y swydd yn rhoi digon o awdurdod iddo mewn materion gweinyddol. Ef oedd yn gyfrifol am lywio'r Eglwys trwy flynyddoedd caled Rhyfel Byd II ac enillodd achos cyfreithiol yn erbyn y Tithe Redemption Commission, 1943-44. Ystyrid ef yn drefnydd heb ei ail gan aelodau Comisiwn y Genedl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, 1946-49; ef oedd yn gyfrifol am weinyddu apêl yr Eglwys yng Nghymru, 1952-53, a hefyd am brynu Bush House, un o fuddsoddiadau mwyaf llwyddiannus yr Eglwys yng Nghymru yn y farchnad dai. Bu salwch ei wraig, Ada Marie (ganwyd Thomas), yn ofid mawr iddo yn ei flynyddoedd olaf. Bu farw bedwar mis ar ei hôl, ar 17 Rhagfyr 1956. Y mae ei erthyglau yn chwarterolyn yr Eglwys, Province, ar ' Frank Morgan ', ' Parsons' pay ', a ' Bush House ' yn ffynonellau defnyddiol ar hanes cynnar y Corff Cynrychioliadol.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.