Ganwyd 18 Mehefin 1890 ym Middlesborough, swydd Efrog, yn fab i Aneurin Williams, A.S., meistr haearn, a'i briod Helen Elizabeth (ganwyd Pattinson). Priododd yn 1920 Francion Elinor Dixon o Golorado, T.U.A., a bu iddynt un mab a dwy ferch. Addysgwyd ef yn Ysgol Rugby ac yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. O 1914 hyd 1920 gwasanaethodd gyda neu yn y fyddin, yn bennaf yn Ffrainc, gan ymddeol yn gapten. Yr oedd yn ddyn a diddordebau eang ganddo, yn ymestyn dros lenyddiaeth, llyfryddiaeth, celfyddyd, caneuon gwerin a byd natur. Yn debyg i'w dad, yr oedd yn Rhyddfrydwr selog, a bu'n ymgeisydd seneddol ddwywaith, ond heb lwyddiant, am etholaeth Chelsea. Dechreuodd ei yrfa yn ohebydd llyfryddiaeth i'r London Mercury (1920-39), ac yna'n ohebydd celfyddyd ac amgueddfeydd i'r Times (1936 ymlaen). Gydag amser tyfodd yn awdurdod ar hanes celfyddyd ym Mhrydain; cyhoeddodd lyfr sylweddol a phwysig, Early English watercolours (1952). Trafododd yr agweddau Cymreig ar y pwnc hwn mewn erthygl ' Paul Sandby and his predecessors in Wales ' yn Traf. y Cymm. (1961, Rhan II (1962), 16-33). Yr oedd yn gasglwr deallus; fe roddodd 24 o'i ddarluniau i'r Amgueddfa Brydeinig a gadawodd iddi 65 yn ychwaneg yn gymynrodd. Gwelir ei weithgarwch llenyddol yn ei gyhoeddiadau niferus: cyfrolau o farddoniaeth (1915 ac 1919), llyfryddiaeth John Masefield (1921), Byways round Helicon (1922), Shorter poems of the eighteenth century (1923), Seven eighteenth-century bibliographies (1924). Golygodd ddramàu Sheridan (1926) ac ysgrifennodd lawlyfr anghyffredin The elements of book collecting (1927). Gweithiau eraill ganddo oedd Poetry today (1927), Where the bee sucks (1929) a Points in eighteenth-century verse (1934). Cyfrannodd i'r Dictionary of national biography ac i'r Cambridge bibliography of English literature. Bu'n is-lywydd y Bibliographical Society yn 1944, yn ysgrifennydd mygedol y Folk Song Society - ysgrifennodd English folk song and dance (1935) - ac yn is-lywydd y Zoological Society of London - ysgrifennodd Flowers of marsh and stream (1946). Yr oedd yn naturiaethwr profiadol yn y maes. Parchai goffadwriaeth ei gyndad Iolo Morganwg (Edward WILLIAMS y cyflwynodd gasgliad o'i bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, trwy ymddiddori'n frwd mewn materion Cymreig, gan gynnwys yr iaith, a gwasanaethodd ar Gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac ar Bwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau; fe'i gwnaed yn aelod o Orsedd y Beirdd er anrhydedd (1960). Bu farw 18 Ionawr 1962, a thalwyd teyrnged iddo gan y Times, lle y crybwyllwyd ei osgo tal, a thuedd at grymu, yn ysgolheigaidd ei wedd ond yn esgeulus o'i ymddangosiad. Dywedwyd ei fod yn meddu ar onestrwydd Gladstonaidd, radicaliaeth lem a chefnogaeth ffyrnig dros ddirwest.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.