WILLIAMS, WILLIAM EWART (1894 - 1966), ffisegydd a dyfeisydd

Enw: William Ewart Williams
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1966
Priod: Sarah Ellen Williams (née Bottomley)
Rhiant: Jane Williams
Rhiant: Ellis William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffisegydd a dyfeisydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 3 Mawrth 1894 ym Modgarad, Rhostryfan, Caernarfon, mab hynaf Ellis William Williams (goruchwyliwr chwarel y Cilgwyn) a'i wraig Jane, Llys Twrog, y Fron. Wedi mynychu ysgolion lleol ymaelododd yng Ngholeg Owens, Prifysgol Manceinion lle y cafodd Rutherford, Bohr a Darwin yn athrawon. Graddiodd gydag anrhydedd mewn ffiseg yn 1915 ac ennill M.Sc. (Manc.) yn 1926. Wedi hyfforddiant gyda Barr Stroud Range Finder Makers, Glasgow (1917-20) bu'n gyfrifol am ddatblygu offer sbectrol o gydraniad uchel ac offer polarimetrig i Adam Hilger Cyf., Llundain. Gyda chymeradwyaeth yr Athro O. W. Richardson (enillydd Gwobr Nobel) fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brenin, Prifysgol Llundain (1920-39). O dan gyfarwyddyd Appleton a Richardson dyfarnwyd iddo radd D.Sc. (Llundain) yn 1934. Ar bwys ei gyfraniadau i dechnegau mesuriadau manwl cydraniad uchel (high resolution) ym maes sbectrosgopeg cyflwynwyd iddo Fedal Duddell gan Gymdeithas Ffisegol Llundain yn 1935. Daeth yn Gymrawd Leverhulme yn 1936. Fis Mawrth 1938 ymddiswyddodd ac ymfudo i Dde Califfornia ac erbyn 1946 yr oedd yn ddinesydd Americanaidd. Ymyriaduriaeth (interferometry) oedd ei briod faes a daeth yn awdurdod byd-enwog yn y pwnc. Ystyrir ei gyfrol Applications of interferometry (1928, 1930, 1941, 1948, 1951), a gyfieithiwyd i nifer o ieithoedd, yn waith safonol. Yn 1949 gwerthodd ei labordy personol yn Pasadena i Lu Awyr y Taleithiau Unedig. Bu ynglŷn â dyfeisio math arbennig o ffenestr ar gyfer project Mercury i Gwmni Northrop. Yn 1952-53 ef oedd prif ymgymerwr American Missile Control. Yn 1953, wedi cyfnod o waeledd ac mewn cydweithrediad â'r meddyg, Dr Olive Hoffman, yn Sefydliad Ymchwil Pasadena, bu'n ymchwilio i sbectra bylchliw is-goch steroidiau a arweiniodd at ddatblygu math newydd o ocsimedr ond bu'r ddau farw cyn gweld ffrwyth eu llafur. Ymunodd â chwmni teiars Firestone (gwneuthurwyr y taflegryn Corporal) yn 1958. Cyfrannodd yn helaeth i drafodion y Gymdeithas Frenhinol a'r London Physical Society (1933); Review of modern physics, Zeitschrift für Physik (1929), Nature (1935), ac yn y blaen. Derbyniwyd rhwng 30 a 40 o'i batentau gan wahanol gwmnïau yn y Deyrnas Gyfunol, yr Almaen a gwledydd eraill. Priododd Sarah Ellen Bottomley, New Hey, Rochdale. Ni bu ganddynt blant. Ieithydd oedd hi ac, fel ei gŵr, ymddiddorai mewn cerddoriaeth. Bu ef farw yn Pasadena 20 Ebrill 1966 a'i gladdu ym medd y teulu ym mynwent Pisga, Carmel, Sir Gaernarfon. Gadawodd waddol hael i Brifysgol De Califfornia er mwyn sefydlu yno ysgoloriaeth i hwyluso myfyrwyr o dras Cymreig i dderbyn hyfforddiant lleisiol ac offerynnol. Bu brawd iddo, Robert Arthur Williams, yn Brif Arolygydd Cadwraeth Porthladd Sydney, Awstralia. Treuliodd ei frawd ieuengaf, Stanley Haydn Williams, Y Fron, dros hanner canrif yng ngweinidogaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.