WILLIAMS, GEORGE (1879 - 1951), cyfarwyddwr cwmnïau ac Arglwydd Faer Caerdydd

Enw: George Williams
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1951
Priod: Margaret Williams (née Jones)
Rhiant: Mary A. Williams
Rhiant: Frederick Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfarwyddwr cwmnïau ac Arglwydd Faer Caerdydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William David (Bill) Jones

Ganwyd 2 Rhagfyr 1879 yn Hwlffordd, Penfro, yn fab i Frederick a Mary A. Williams, ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Hwlffordd. O 1920 hyd 1945 yr oedd yn fasnachydd defnyddiau adeiladu ac yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau, gan gynnwys Williams a Borgars Cyf., Camrose Estates Ltd. a Whitehead's Electrical Inventions Ltd.

Yn y 1930au bu'n flaenllaw iawn yn yr ymdrech i ddenu diwydiannau newydd i dde Cymru i leddfu effaith diweithdra yn dilyn dihoeni'r prif ddiwydiannau trwm. Bu'n gadeirydd y National Development Council of Wales and Monmouthshire o'i ddechreuad yn 1931 ac ef oedd awdur y cynllun y cymerodd y Llywodraeth ato wrth ffurfio'r Special Areas Reconstruction Assocation a chodi ffatrïoedd parod. Ei syniad ef i raddau helaeth oedd Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r wasg ar faterion diwydiannol ac economaidd cyfoes.

Rhoddodd lawer o wasanaeth cyhoeddus hefyd er budd dinas Caerdydd. Etholwyd ef yn gynghorydd (Rh.) ward Pen-y-lan yn 1928, gwnaed ef yn henadur yn 1948, a bu'n faer y ddinas, 1950-51. Bu'n gadeirydd y Bwrdd Masnach, y pwyllgor ystadau a phwyllgor y maes awyr, a chymerodd ran bwysig mewn prynu Castell Caerdydd a Meysydd Pontcanna i'r ddinas. Ac yntau'n un o brif gefnogwyr cais Caerdydd i fod yn brifddinas Cymru, prynodd Parc Cefn Onn a'i roi'n ddiweddarach i'r ddinas. Cafodd C.B.E. yn 1938.

Yn 1904 priododd â Margaret Jones (bu farw 1942) a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw yng Nghaerdydd 7 Hydref 1951.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.