WILLIAMS, BENJAMIN HAYDN (1902 - 1965), swyddog addysg

Enw: Benjamin Haydn Williams
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1965
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog addysg
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Moses John Jones

Mab Benjamin a Margaret Jane Williams; ganwyd yn Rhosllannerchrugog, Dinbych, 9 Hydref 1902. Cafodd ei addysg yn yr ysgol sir, Rhiwabon. Bu'n ddisgybl-athro yn 1921-22; yna aeth yn efrydydd i Brifysgol Lerpwl ac yn 1925 ennill gradd mewn gwyddoniaeth, gydag anrhydedd uchel mewn cemeg. Ym mhen dwy flynedd, graddiodd yn Ph.D. O 1927 hyd 1931, bu'n gwneud gwaith ymchwil gyda'r Adran Scientific and Industrial Research yn Llundain. Yn 1931, penodwyd ef yn ddarlithydd yng ngholeg technegol Wrecsam ac ef a fu'n gyfrifol am ddatblygu'r Adran gemeg yno, gan arbenigo ar yr ochr ddiwydiannol.

Yn 1938, daeth i Sir y Fflint, yn ddirprwy-gyfarwyddwr addysg ac yn gyfarwyddwr yn 1941. Bu'n aelod o lys Prifysgol Cymru a gweithredu ar amryw o'r is-bwyllgorau, yn cynnwys Cyngor y Brifysgol. Bu'n gadeirydd cyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1960-64. Daeth i'r amlwg fel un o arloeswyr yr ysgolion Cymraeg, ac ef, drwy yr egni a'r brwdfrydedd a'i nodweddai, a sefydlodd yn Sir y Fflint y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Cymerodd ran arbennig yn yr ymgyrch i hyrwyddo'r Gymraeg ar y teledu, ac yn 1961 daeth yn gadeirydd Cwmni Annibynnol 'Teledu Cymru', ond ni lwyddodd y fenter hon a daeth i ben ym mis Mai 1963.

Priododd 1929 â Sarah Hughes, o Rosllannerchrugog a ganed iddynt ddau o blant. Bu farw 29 Mai 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.