Ganwyd 18 Chwefror 1870 yng Nghaerffili, Morgannwg, yn fab i Thomas Williams glöwr, ac yn un o dri ar ddeg o blant. Er dechrau gweithio'n blentyn yn y pwll glo, dangosodd allu anghyffredin yn gynnar ac yn 1882 enillodd ysgoloriaeth Gelligaer i Ysgol Lewis, Pengam. Yng nghofrestr yr ysgol honno nodir ysgol fwrdd Bargod fel ei ysgol flaenorol a rhoddir cyfeiriad ei dad fel Greenfield Terrace, Bargoed. Ymddengys iddo gael ei osod yn y dosbarth canol. Yn 1883-84 yr oedd yn y dosbarth hŷn, ac yn arholiad yr haf daeth yn ail mewn dosbarth o 24. Yr oedd ar ben y rhestr o 27 yn arholiad haf 1885 wedi llwyddo yn arholiad lleol Caergrawnt y Nadolig cynt. Safodd yr un arholiad Nadolig 1885. Yn 1886 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri ac yno y blodeuodd i ddawn fel mathemategydd. Yn y pwnc hwn yr enillodd ysgoloriaeth, gwerth £80 am bedair blynedd, yng Ngholeg Worcester, Rhydychen. Yno enillodd wobrau am ei waith yn y clasuron, diwinyddiaeth a mathemateg, cyn graddio gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1893 yn yr olaf o'r pynciau hyn.
Yn union wedi graddio, cafodd swydd yn ei hen ysgol ym Mhengam ond symudodd yn fuan fel athro i Goleg Tettenhall, Wolverhampton. Yn 1895 penodwyd ef yn brifathro cyntaf yr ysgol sir newydd ym Methesda a daliodd y swydd honno nes ymddeol ohono yn 1933.
Crefydd oedd ei ddiddordeb pennaf. Bu'n ddiacon ym Methesda (A), ac wedyn ym Methania, Bethesda. Cyfrannodd yn helaeth at waith yr Ysgol Sul ac yr oedd yn un o olygyddion y llawlyfrau modern newydd i blant a gyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr. Bu'n un o ysgrifenyddion yr Undeb hwn o 1924 i 1927 ac yn llywydd yn 1944-45. Bu'n ysgrifennydd cyffredinol Coleg Bala-Bangor o 1932 hyd 1951 a threuliodd gryn ugain mlynedd yn llunio bywgraffiadur o holl fyfyrwyr ac athrawon y Coleg. Ceir copïau o'r gwaith yn Ll.G.C. a Choleg Bala-Bangor.
Bu'n briod ddwywaith; (1) yn 1897, â Selina, merch John Evans, Minafon, Coed-duon, Mynwy, a (2) yn 1929 â'i chwaer Mary. Bu ganddo un ferch, a thri mab. Gŵr diymhongar oedd D. J. Williams a guddiai ei allu mawr a'i gydnabyddiaeth â llawer o flaenwyr y wlad y tu ôl i gochl ei swildod. Ond gadawodd ei ôl yn drwm ar Ddyffryn Ogwen.
Bu farw 1 Hydref 1951 a chladdwyd ef ym mynwent Coetmor, Bethesda.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.