WILLIAMS, DANIEL JENKINS (1874 - 1952), gweinidog (MC/Presb.) a hanesydd achos y MC yn America

Enw: Daniel Jenkins Williams
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1952
Plentyn: Robert Hugh Williams
Rhiant: Jane Mary Williams (née Jenkins)
Rhiant: Robert H. Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC/Presb.) a hanesydd achos y MC yn America
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Edward George Hartmann

Ganwyd 22 Rhagfyr 1874, yn Genesee Depot, mewn ardal amaethyddol a sefydliad bychan o Gymry, yn fab i Robert H. a Jane Mary (ganwyd Jenkins) Williams. Dwyflwydd oed oedd y tad pan ymadawodd y teulu ag ardal Gwalchmai yn Ynys Môn yn 1846 ac ymsefydlu yn Wisconsin. Yn Wisconsin y ganwyd y fam yn fuan ar ôl i'w rhieni gyrraedd yno o Geredigion ac ymsefydlu yn y drefedigaeth fechan Gymreig yn swydd Waukesha yn 1850. Addysgwyd y mab yn ysgol bren leol yr ardal a alwyd Wales wedi i'r rheilffordd gyrraedd yno yn 1882, ac yng Ngholeg Carroll, a graddio ym Mhrifysgol Wisconsin, B.A. 1899, M.A. 1900, a chymryd ei B.D. yn yr Union Theological Seminary yn 1903. Yn 1904-05 bu'n dilyn cyrsiau yng Ngholegau Christ Church a Mansfield yn Rhydychen, gan ymddiddori mewn llenyddiaeth Geltaidd a phregethu yng Nghymru yn ystod y gwyliau. Parhaodd i bregethu yn Gymraeg a Saesneg ar hyd ei oes. Bu dylanwad eglwys Bethania (MC), Wales (Wisc.) yn drwm arno. Yn 1914 cafodd radd Ph.D. o Brifysgol Talaith Ohio, ac yn 1918 rhoes Coleg Carroll radd D.D. er anrhydedd iddo. Gwasanaethodd nifer o eglwysi wedi ei ordeinio yn Synod (MC) Wisconsin yn 1906 : Arbor Vitae, Wis., 1905-07, eglwys (MC) Gymraeg Columbus, Ohio, 1908-11, Presb. 1, Oshkosh, Wis., 1911-15, Presb. 1, Wausau, Wis., 1915-20, Presb. 1, Cedar Rapids, Ia., 1920-23, Presb. Gymreig, Miami Ave., Columbus, O., 1932-33. Ymddeolodd yn 1933 i ganolbwyntio ar ysgrifennu hanes swyddogol eglwys MC America. Oherwydd gwaeledd ei wraig treulient y gaeafau yn Florida a'r hafau yn Wisconsin a byddai yntau'n gwasanaethu eglwysi yn ôl y galw. Wedi claddu ei wraig bu'n gofalu am eglwysi Presb. bychain gwledig Delafield a Stone Bank. Ef oedd llywydd synod Bresb. Wisconsin yn 1915. Yn ystod ei weinidogaeth yn Wausau sefydlodd gymanfa ganu a phregethu boblogaidd ar y bryn lle y preswyliai mewn tŷ a elwid Bryn Mawr, a thynnai filoedd o bellter ar ddyddiau o haf. Wedi ymddeol yn 1951 bu'n gaplan preswyl y Masonic Hall and Eastern Star Hospital ger Dousman, Wis. Bu farw 29 Mai 1952 yn Ysbyty Columbia, Milwaukee, a chladdwyd ef ar 2 Fehefin, wedi gwasanaeth yn eglwys Jerusalem, Wales, Wisconsin yn agos i fan ei eni. Bu iddo un mab, y Brigadydd Robert Hugh Williams, a fu farw yn 1983. Y mae ei dair cyfrol yn gyfraniadau pwysig tuag at hanes y Cymry yn y Taleithiau Unedig : The Welsh of Columbus, Ohio: a study in adjustment and assimilation (1913); The Welsh community of Waukesha county, Wisconsin (1926); a One hundred years of Welsh Calvinistic Methodism in America (1937), yr olaf yn hanes swyddogol Eglwys MC America o'i dechreuad hyd ei huno gydag Eglwys Bresbyteraidd America yn 1920.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.