Ganwyd 17 Ionawr 1883 yn Nhan-y-fron, Tanygrisiau, Meirionnydd, yn fab i William Morris Williams, chwarelwr, a Jane ei wraig. Yr oedd yn un o saith o blant. Bu'r tad yn godwr canu yn eglwys Bethel (MC), Tanygrisiau am 25 mlynedd a dechreuodd y mab gynorthwyo gyda'r gwaith pan oedd yn 17 oed. Priododd ef yn 1905 a Mair, merch Daniel a Mary Williams, Conglog, Tanygrisiau, a magasant deulu cerddgar - tri mab a dwy ferch. Tuag 1909 symudodd y teulu i Granville yn nhalaith Efrog Newydd a chododd ef gôr plant yno, ond gan na chafodd ei briod iechyd yn y wlad newydd dychwelodd y teulu i Danygrisiau yn 1911. Ymaelododd â chôr meibion y Moelwyn dan arweiniad Cadwaladr Roberts, ac ailgododd gôr plant a sefydlasai gyntaf yn y pentre yn 1905. Oherwydd amser gwan yn y chwareli symudodd y teulu yn 1915 i Abertridwr, lle y bu ganddo gôr llwyddiannus nes dychwelyd eto yn 1921 i ardal ei febyd. Cafodd waith yn chwarel Maenofferen, ac yno y bu hyd ei ymddeoliad yn 1941. Yn ystod y cyfnod sefydlodd gorau cymysg, corau plant, a chorau cerdd dant. Gyda chôr cymysg o tua chant o leisiau, a chyfeiliant cerddorfa amatur leol, cyflwynodd nifer o oratorïau, megis Messiah, Judas Maccabeus a Creation. Gan ddibynnu ar adnoddau lleisiol ei eglwys trefnodd berfformiadau o gantawdau, yr opereta Esther a'r opera Blodwen. Gyda rhai cantorion o'r tu allan ymwelodd cwmni Blodwen â 14 o ardaloedd yng Ngwynedd rhwng 1945 ac 1947. Ond y côr a ddaeth â'r enwogrwydd mwyaf iddo fel hyfforddwr ac arweinydd oedd côr plant Tanygrisiau. Enillodd hwnnw'r wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth y corau plant droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol - Bangor, 1931, Aberafan, 1932, Castell-nedd, 1934, a Chaernarfon, 1935. Yn y tair cyntaf enillodd y côr hefyd Darian Goffa Iorwerth Glyndwr John am ganu trefniannau o alawon gwerin, a'i hennill yn derfynol. Enillodd y wobr gyntaf hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Colwyn 1934. Daeth y Côr yn adnabyddus drwy Gymru gyfan mewn eisteddfod a chyngerdd, ac yr oedd yn un o'r corau cyntaf i ddarlledu rhaglen Gymraeg yn 1936. Ymhoffai W. M. Williams mewn cerdd dant a bu'n fuddugol fel datgeiniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1921, Yr Wyddgrug, 1923, a Phwllheli, 1925. Gyda chôr telyn Barlwyd enillodd wobrau cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman, 1922, Yr Wyddgrug, 1923, Pwllheli, 1925, a Threorci, 1928, heblaw buddugoliaethau mewn eisteddfodau yng ngogledd Cymru, 1922-25, a chynnal llu o gyngherddau yng Nghymru a Lloegr. Bu'n beirniadu cerdd dant yn eisteddfodau Gwynedd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ystradgynlais, 1954, ac yr oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Cerdd Dant. Hyfforddodd lu o unigolion a phartïon canu ei fro. Gwasanaethodd ei eglwys fel codwr canu, ysgrifennydd, ac athro Ysgol Sul am gyfnod hir. Bu farw 30 Rhagfyr 1954, a chladdwyd ef ym mynwent Bethesda, Blaenau Ffestiniog.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.