Ganwyd 22 Ebrill 1892, unig fab Edward Williamson, twrne yng Nghaerdydd, a'i wraig Florence Frances Tipton. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf, ac aeth ymlaen i Ysgol Westminster, gydag Ysgoloriaeth Frenhinol, i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. (dosb. II Lit. Hum.) 1914, ac M.A. 1917. Aeth i goleg diwinyddol Wells a chael ei ordeinio'n ddiacon yn 1914 a'i drwyddedu i guradiaeth St Martin, Potternewton, swydd Efrog, 1915-17. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, 1916. Bu'n gurad Lambeth, 1917-22, cyn ei benodi'n ddarlithydd yng Ngholeg Awstin Sant, Caergaint, 1922-23. Etholwyd ef yn gymrawd 1923 ac yn gymrawd anrhydeddus o 1936 ymlaen. Penodwyd ef yn Warden coleg diwinyddol S. Mihangel, Llandaf, yn 1926, ac yno y bu hyd nes ei ethol yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ym mis Tachwedd 1939. Yr oedd yn gaplan anrhydeddus i Esgob Llandaf, 1929-31, yn arholwr esgobaethol, 1931-39, yn ganon Caerau yn eglwys gadeiriol Llandaf, 1930-37, ac yn ganghellor 1937-39. Cysegrwyd ef yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn eglwys gadeiriol Bangor, 30 Tachwedd 1939 gan Charles Green , Archesgob Cymru.
Er nad oedd yn Gymro carai Gymru, ei heglwys a'i phobl. Pan wahoddwyd ef yn nechrau 1953 i fod yn un o is-lywyddion Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954, anfonodd lythyr Cymraeg yn derbyn yr anrhydedd. Ychydig funudau cyn ei farw yn ystod cyfarfodydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nhymru yn Llandrindod, gwnaethai araith gref yn gofidio fod tynfa i Eglwys Loegr yn amddifadu Cymru o'i hoffeiriaid ieuainc. Yr oedd ar ei orau'n hyfforddi myfyrwyr yng ngholeg Mihangel Sant, a dylanwadodd ei bersonoliaeth hawddgar a'i ysgolheictod disgybledig ar genedlaethau o ymgeiswyr am urddau.
Yr oedd yn hyddysg mewn pynciau hynafiaethol a dechreuodd astudio pensaernïaeth eglwysig pan oedd yn fachgen. Teithiodd y cyfandir i ddilyn ei ddiddordebau a gallai ysgrifennu'n ddifyr ar y pwnc. Pan oedd yn Llandaf lluniodd arweinlyfr i'r eglwys gadeiriol, The Story of Llandaff Cathedral (1930), ac aeth i bum argraffiad. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, ac yn Aberhonddu ym mis Awst 1951 etholwyd ef yn llywydd am 1951-52. Traddododd ei ddarlith o'r gadair ar y testun hanes saint Cymru yn ôl Llsgr. Vespasian A XIV. Golygodd The letters of Osbert of Clare, 1929. Yn 1946 cyhoeddodd An anatomy of joy, sef tair pregeth a draddododd yn Rhydychen pan oedd yn bregethwr dewisol yn 1944-45. Bu'n bregethwr dewisol yng Nghaergrawnt, 1951. Ym mis Ionawr 1953 darlledodd y ddarlith radio, Henry Vaughan, a chyhoeddwyd hi gan y B.B.C.
Hen-lanc swil a thawedog ydoedd, ond yn siaradwr cyhoeddus cytbwys a ffraeth. Gŵr glandeg, hoffus, gyda hiwmor annisgwyl a'i sancteiddrwydd yn amlwg i bawb. Bu farw 23 Medi 1953, a'i gladdu yn Aberhonddu.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.