Ganwyd 6 Tachwedd 1879, yng Nghwm-brân, Mynwy, mab Jesse Daggar, glöwr, a'i wraig, Elizabeth. Yn ei blentyndod symudodd y teulu i Abertyleri ac addysgwyd ef yno yn yr ysgol Frytanaidd. Dechreuodd weithio pan oedd yn ddeuddeg oed ym mhwll Arael Griffin, Six Bells, ger Abertyleri. Taflodd ei hun i waith undebaeth llafur ac yn ei ddauddegau fe'i hetholwyd yn is-gadeirydd Cyfrinfa Rhif 5, Arael Griffin. Yn 1911 aeth yn fyfyriwr i'r Central Labour College yn Llundain ac yn y blynyddoedd dilynol bu'n ddarlithydd poblogaidd ar bynciau economaidd a diwydiannol yng nghymoedd sir Fynwy. Mynychodd gynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn 1917, etholwyd ef yn aelod o gyngor dosbarth trefol Abertyleri yn 1919 ac yn gynrychiolydd y glowyr (miners' agent) yng nghymoedd gorllewinol sir Fynwy yn 1921, pan ddewisiwyd ef hefyd yn aelod o gyngor gwaith Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Yn 1929 fe'i hetholwyd yn A.S. Llafur Abertyleri; fe'i hailetholwyd yn ddiwrthwynebiad yn 1931 ac 1935, ac yn etholiadau cyffredinol 1945 ac 1950 enillodd ganran uwch o'r bleidlais na'r un ymgeisydd arall yng Nghymru. Yn ŵr hynaws a thrugarog, yr oedd yn eithriadol gymwynasgar yn ei ymwneud â'r etholwyr, a deuai tyrfaoedd o bobl i'w gyfarfod ac i gael cyngor ganddo wrth iddo ddychwelyd i'w etholaeth bob nos Wener. Bu'n gydwybodol yn ei ddyletswyddau yn Nhŷ'r Cyffredin; rhwng 1929 ac 1931, er enghraifft, bu'n bresennol mewn 525 pleidlais allan o 526. Perthynai i'r canol-chwith yn y Blaid Lafur a chyfrannai'n gyson i drafodaethau'r Senedd ar bynciau megis diogelwch yn y pyllau, diweithdra, y prawf moddion a phensiynau. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dewis ar Ymsuddiant Mwyngloddiol (Mining Subsidence), yn is-gadeirydd y Blaid Lafur Seneddol ac yn gadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig. Priododd Rachel Smith, gwniyddes, yn 1915; ni bu iddynt blant. Cyhoeddodd gyfrol, Increased production from the workers' point of view yn 1921 a phamffled, Has Labour redeemed its pledges? yn 1950. Bu farw yn ei gartref yn Six Bells ar 14 Hydref 1950.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.