DAVIES, DAVID JOSHUA (1877 - 1945), dramodydd

Enw: David Joshua Davies
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1945
Priod: Annie Davies (née Davies)
Rhiant: Mary Davies (née Evans)
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dramodydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd yn Troed-y-rhiw, Llanwenog, 26 Rhagfyr 1877 yn fab i John Davies a Mary (ganwyd Evans) ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Mydroilyn ac ysgol 'tutorial' Ceinewydd. Bu bron â cholli ei olwg yno, ond wedi'i adfer aeth yn brentis i siop 'ironmonger' yn Abertawe. Yn 1910 cymerodd dyddyn, ac yn ddiweddarach y siop a'r swyddfa bost, ym Mhont-rhyd-y-groes, lle treuliodd weddill ei oes. Priododd ag Annie Davies o Geinewydd yng nghapel St. Paul, Aberystwyth, 6 Ebrill 1904 a chodi teulu o bedwar o blant. Daliodd swyddi pwysig yn ei enwad (Y Wesleaid) a'r cyngor sir lle daeth yn gadeirydd y pwyllgor addysg. Ysgrifennodd lawer i'r wasg leol ar bynciau gwleidyddol, ond ei fri mwyaf oedd ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918 am ei ddrama Maes y Meillion. Erys ei ddrama Owen Glyndŵr heb ei chyhoeddi. Bu farw 8 Ionawr 1945 a chladdwyd ef yng Ngheinewydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.