DAVIES, JOHN LLEWELYN (1826 - 1916), cyfieithydd, caplan, ac un o ddringwyr cynnar mwyaf llwyddiannus yr Alpau

Enw: John Llewelyn Davies
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd, caplan, ac un o ddringwyr cynnar mwyaf llwyddiannus yr Alpau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Ioan Bowen Rees

Mab John Davies, offeiriad ac athronydd. Yr oedd yn gymrawd o Goleg y Drindod, Caergrawnt, 'Hulsean Lecturer' yn y brifysgol honno, 'Lady Margaret Preacher' yn Rhydychen, yntau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cwestiwn addysg uwch i ferched, a chyfaill Frederick Denison Maurice; y mae'n adnabyddus iawn fel cyd-gyfieithydd Gwladwriaeth Platon.

Yr oedd yn un o 31 aelod gwreiddiol y Clwb Alpaidd ac yn un o ddringwyr cynnar mwyaf llwyddiannus yr Alpau. Ef, gyda'r tywysydd Johann Zumtaugwald a thywysyddion eraill, oedd y cyntaf i ddringo'r Dom (14,942 tr.), y mynydd uchaf a berthyn i'r Swistir yn unig (hyn ar 11 Medi 1858) ac, yn 1862, y Täsch-horn (14,700 tr.). Esgynnodd y Finsteraarhorn mor gynnar â 29 Awst 1857. Dim ond un ysgrif ar fynydda a gyhoeddodd, ' An ascent of one of the Mischabel-Hörner, called the Dom ' (Peaks, passes and glaciers, cyfres gyntaf, 1859) ond yr oedd yn fawr ei barch gan Leslie Stephen, ysgrifwr mynydd gorau'i gyfnod, a fu'n ddisgybl iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.