EVANS, DAVID CLEDLYN (1858 - 1940), ysgolfeistr, daearegydd a hynafiaethydd

Enw: David Cledlyn Evans
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1940
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, daearegydd a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Llanwenog, Ceredigion yn 1858. Pan oedd yn 11 oed prentisiwyd ef yn fasiwn ond ymhen rhyw 5 mlynedd ymbaratôdd i fod yn athro. Yn 1876 dechreuodd ddysgu yng Ngwernogle, gan ddod ymhen hir a hwyr yn brifathro ysgol y cyngor yn Sanclêr (1889-1923) ar ôl cyfnodau byr yng Nghwrtnewydd, Llwynrhydowen, Llandysul, Trefilan a Llanddowror. Yr oedd yn amryddawn iawn, yn fiolinydd, organydd a chorfeistr, yn feirniad eisteddfodau, a rhoddai wersi canu a gwersi offerynnol. Ond yn anad dim yr oedd yn hynafiaethydd a daearegwr gwych. Cyhoeddwyd yn The Quarterly Jnl. of the Geological Soc. yn 1906 ei bapur nodedig ar greigiau Ordofigaidd gorllewin Caerfyrddin a ddarllenwyd ganddo gerbron y Gymdeithas Ddaearegol. Cynhwysa fap lliw o'r ardal, nifer o drychluniau, a dau dudalen o enwau'r ffosilau a ddarganfuwyd yn y calchfaen-Bala sydd yn Robeston Wathen a Sholeshook. Yn ddiweddarach archwiliodd ddaeareg yr ardal rhwng Brechfa a'r Glog, a Llanybydder a Llangrannog, gan ddarganfod fod cerrig Stonehenge yr un fath yn union â'r rhai sydd ar fynyddoedd y Preselau. Gallodd ddangos ar ei fap o'r ardal y ffin rhwng y creigiau Ordofigaidd a'r rhai Silwraidd ac er na orffennodd ei adroddiad ei hun o'r gwaith hwn, caniataodd i'r llinell derfyn bwysig hon gael ei chopïo ar fap yr arolwg daearegol swyddogol. Mewn gwerthfawrogiad o'i waith etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddol a chafodd radd M.Sc. gan Brifysgol Cymru.

Bu ei wraig farw c. 1924; bu iddynt bump o blant. Bu yntau farw 11 Mehefin 1940 a chladdwyd ef ym mynwent Bethlehem, Sanclêr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.