GRENFELL (TEULU), diwydianwyr yn ardal Abertawe

Yn wreiddiol o St. Just, Cernyw. Drwy gysylltiad priodasol â theulu St. Leger, arddelent berthynas â Syr Richard Grenville (y Revenge) a Richard de Granville, sefydlydd Mynachlog Nedd. Priododd Syr Richard, a oedd yn disgyn yn uniongyrchol oddi wrth Richard de Granville (Visns. of Cornwall, gol. J. L. Vivian) â Mary, merch Syr John St. Leger. Priododd PASCOE GRENFELL (1761 - 1838) â Georgina St. Leger, merch yr Is-iarll Doneraile I (o'r ail greadigaeth), fel ei ail wraig, yn 1798. Charles Kingsley, perthynas arall drwy briodas, oedd y cyntaf i olrhain y cysylltiad. Yr oedd y teulu eisoes yn farsiandwyr a bancwyr llwyddiannus yn y 18g. Yn 1803 ymunodd Pascoe Grenfell mewn contract gydag Owen Williams i fasnachu mewn copr a datblygodd fusnes yn Llundain, Lerpwl, Abertawe a Sir y Fflint. Ffurfiwyd ffyrm Pascoe Grenfell a'i Feibion yn yr 1820au. Yr oeddynt yn berchen gweithfeydd copr y Middle a'r Upper Bank yn rhan isaf Cwm Tawe, ac, ar eu man uchaf, cyflogent 800 o ddynion. Yr oedd ganddynt longau'n hwylio'n gyson rhwng Abertawe a'u gweithfeydd ar lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. Gwerthwyd y gweithfeydd yn Abertawe i'w cymdogion, William, Foster a'u Cwmni, yn 1892.

PASCOE ST. LEGER GRENFELL (1798 - 1879), Dirprwy Raglaw ac Y.H.

Mab hynaf Pascoe a Georgina. Yn y 1840au ymsefydlodd yn Abertawe ac adeiladu plas Maes-teg ar odre bryn Cilfái. Priododd (1), yn 1824, Catherine Anne Du Pre, merch hynaf James Du Pre o Wilton Park, swydd Buckingham, ac wyres Josias Du Pre, llywodraethwr Madras; ac (2), yn 1847, Penelope Frances Madan, merch Deon Chichester. Yr oedd Pascoe St. Leger yn ddyngarwr eiddgar a chododd dai model (yn ôl safonau'r oes honno) i'w weithwyr, sefydlodd eglwys yr Holl Saint yng Nghilfái, ac arolygodd yr ysgol a gedwid gan Richard Gwynne. Ef oedd cadeirydd yr Ymddiriedaeth harbwr a bu'n ddiwyd yn natblygiad dociau Abertawe. Bu iddo 4 mab a 5 merch o'i wraig gyntaf: Madelina Georgina (1826 - 1903), Pascoe Du Pre (1828 - 1896), St. Leger Murray (1830 - 1860), Arthur Riversdale (1831 - 1895), Gertrude Fanny (1834 - 1880), Elizabeth Mary (1836 - 1894), Francis Wallace (1841 - 1925), Katherine Charlotte (1843 - 1906), Eleanor Catherine (1845 - 1928). Priododd MADELINA â Griffith Llewellyn (1802 - 1888), Neuadd Baglan, yn 1850. Daeth ef yn gyfoethog drwy ei loféydd yn y Rhondda, a chyfrannodd hi'n sylweddol mewn elusenau. Hi fu'n gyfrifol am adeiladu eglwys S. Catharine, Baglan, ac eglwys S. Pedr, Pentre, am adnewyddu eglwys Fair, Aberafan, ac am waddoli elusendai Llewellyn yng Nghastell-nedd ac Ysbyty Llygaid Abertawe. Parhaodd y cof am (ELIZABETH) MARY yn hir yn Abertawe ar gyfrif ei gwasanaeth cyhoeddus. Cymerodd ei hyfforddi yn nyrs gyda'r bwriad o wasanaethu yn y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia, ond yn lle hynny dychwelodd i Abertawe i weini'n ymroddgar ar y tlodion. Yn ôl papurau newydd y cyfnod aeth 10,000 o bobl heb eu cymell i'w hangladd ym mynwent Dan-y-graig yn 1894. Hi oedd yn gyfrifol am sefydlu eglwys S. Thomas yn nwyrain Abertawe, lle y mae ffenestr liw i'w choffáu.

Nodyn golygyddol 2020:

Pan waharddodd Prydain gaethwasiaeth yn 1833 gwnaeth Pascoe St. Leger Grenfell gais am iawndal am gyfanswm o 347 o gaethweision yn Jamaica. Gw. 'Legacies of British Slave-ownership'.

FRANCIS WALLACE GRENFELL, Y Cadlywydd Arglwydd GRENFELL o Gilfái (1841 - 1925)

Y 4ydd mab a enillodd enwogrwydd cenedlaethol, a'i wneud yn aelod o'r Cyfrin Cyngor, K.C.B., 1886, G.C.M.G., 1892, G.C.B., 1898, LL.D. (Caeredin), 1902, a Chaergrawnt, 1903, ac F.S.A. Ganwyd ef yn Llundain, 29 Ebrill 1841 ond treuliodd ei blentyndod ym mhlas Maes-teg. Addysgwyd ef yn ysgol Milton Abbas, swydd Dorset. Ymunodd â'r 60th Rifles (King's Royal Rifle Corps, yn ddiweddarach) yn 1859.

Gwasanaethodd yn Iwerddon yn ystod cythrwfl y Ffeniaid yn y 1860au ac ar ôl hynny ym Malta, Canada, a'r India. Aeth i Dde Affrica yn 1873 fel A.D.C. i'r Cadfridog Syr Arthur Cunynghame. Yn 1875 cymerodd ran yn yr ymgyrch a hawliodd Griqualand West (safle meysydd diemwnt Kimberley) dros Brydain, ac yr oedd yn un o'r fintai fechan a adfeddiannodd gorff y Tywysog Ymerodrol, unig fab Napoleon III, a laddwyd mewn sgarmes tra'n ymladd gyda lluoedd Prydain yn Rhyfel y Zulu yn 1879. Cymerodd ran ym meddiannu'r Aifft gan Brydain yn 1882, ac yn Ebrill 1885, olynodd Syr Evelyn Wood fel sirdar (prif gomander) byddin yr Aifft, y bu raid ei hailsefydlu o'r gwaelod ar ôl digwyddiadau 1882. Ymladdodd â'r Mahdi a'i olynydd, y Khalifa, mewn aml frwydr. Y mae'r faner a gipiodd ym mrwydr Toski yn 1889 yn eglwys S. Pedr, Pentre. Byddin ail-ansoddedig Eifftaidd Grenfell a ymladdodd o dan Kitchener ym mrwydr Omdurman yn 1898. Gadawsai Grenfell yr Aifft i gymryd at swydd dan y Swyddfa Ryfel yn 1892, ac er ei fod yn ôl yn yr Aifft yn 1898 bu'n ofalus i beidio â llyffetheirio dull y Kitchener enwog a oedd yn is ei reng nag ef. Yr oedd Grenfell yn archaeolegydd amatur brwdfrydig a rhoes gychwyn ar gloddio pwysig yn Aswan, ac y mae rhai o'r gwrthrychau a ddarganfu yn amgueddfa Abertawe. Aeth o'r Aifft i Malta fel llywodraethwr (1899-1903) ac i Iwerddon fel prif gomander, 1904-08. Yno, bu raid iddo fynd i'r afael â therfysg difrifol yn Belfast. Cynrychiolodd Fyddin Prydain ym mhriodas y Tsar olaf, Nicholas II, yn 1896 ac ysgrifennodd lyfr, Three weeks in Moscow, ar ei brofiadau yno. Dyrchafwyd ef yn Barwn Grenfell o Gilfái yn 1902, a gwnaethpwyd ef yn gadlywydd yn 1908.

Cyflwynodd ei flynyddoedd olaf i wasanaeth y Royal Horticultural Society (ef oedd ei llywydd) a'r Church Lads Brigade. Parhaodd ei ddiddordeb yn Abertawe a chafodd ryddfreiniad y dref yn 1889. Priododd (1) yn 1887, ag Evelyn Wood, merch y Cadfridog Blucher Wood, a fu farw yn ddi-blant yn 1899, a (2) yn 1903, â Margaret Majendie, merch Lewis Ashunt Majendie, A.S. Bu iddynt ddau fab a merch. Disgynnodd y teitl i'w fab hynaf, Pascoe (1905 - 1976), ar farwolaeth y tad ar 27 Ionawr 1925. Claddwyd ef yn Beaconsfield, swydd Buckingham, wedi angladd mawr gyda chynrychiolaeth i'r Teulu Brenhinol ynddo.

Yn olaf o'r teulu i fyw ym mhlas Maes-teg oedd KATHERINE KATE, merch St. Leger Murray Grenfell. Cadwai hi ysgol yno. Chwalwyd y ty yn fuan wedi Rhyfel Byd I i wneud lle i ystad dai Parc Grenfell.

Lladdwyd dau o wyrion Pascoe St. Leger yn Ffrainc. Efeilliaid oeddynt, plant ieuengaf ei fab hynaf, Pascoe Du Pre, Francis (1880 - 1915) a enillodd y V.C., a Riversdale (1880 - 1914), yr ysgrifennodd John Buchan fywgraffiad iddynt. Yr oedd y bardd rhyfel enwog, Julian Grenfell (1888 - 1915) mab yr Arglwydd Desborough, y mabolgampwr Olympaidd, yn gefnder iddynt. Cofféir yr efeilliaid ac aelodau eraill o'r teulu yn eglwys yr Holl Saint, Cilfái.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.